Cyhoeddiad Cyllid y Cynllun Datblygu Gwledig yn codi pryderon am flaenoriaethau’r dyfodol

Newyddion Polisi Amaethyddol Trawiadau: 1087

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi manylion am flaenoriaethau cyllid y CDG buddsoddiad o £106 miliwn am y tair blynedd nesaf.

Caiff y cynlluniau eu hariannu drwy gyfuniad o Gynllun Datblygu Gwledig (CDG) yr UE cyllideb 2014-20 – yn cynnwys y 15% a drosglwyddwyd o’r Taliadau Sylfaenol i ffermwyr – ac o gronfeydd Llywodraeth Cymru ei hun.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd cynlluniau allweddol sy’n sail i economi wledig, bioamrywiaeth a blaenoriaethau amgylcheddol Cymru yn cael cymorth pellach, yn ogystal â chynlluniau newydd a gynlluniwyd mewn ymateb i heriau cyfredol a rhai sydd ar ddod. Bydd cyfran o’r gyllideb hefyd yn mynd tuag at reolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol Cymru.

Bydd blaenoriaethau Llywodraeth Cymru’n cynnwys:

Er y croesawir y cadarnhad y defnyddir 17% o’r gyllideb ar gyfer cyfnodau newydd Creu ac Adfer Coetiroedd Glastir (9%) a chynlluniau Grantiau Bach (8%), mae’r ffaith bod yr ail ddyraniad uchaf yn y cyhoeddiad (£16.5 miliwn – 15%) yn ymwneud â “Galluogi Adnoddau Naturiol a phrosiectau Cefnogi Lles sy’n gwneud gwelliannau i adnoddau naturiol mewn ardaloedd preswyl” yn codi pryderon mawr ynglŷn â’r cyfeiriad ar hyn o bryd.

Mae esboniad Llywodraeth Cymru mewn ateb ysgrifenedig i lefarydd amaeth yr wrthblaid Llyr Huws Gruffydd bod cyfanswm y cyllid a glustnodwyd ar gyfer prosiectau Cynllun Rheoli Cynaliadwy yn £2,836,260 (18%) yn gyfalaf a £13,092,091 (82%) yn refeniw (h.y. cyflogau ac ati) gan godi pryderon ynglŷn â sut fydd cyllid yn cael ei wario yn y dyfodol.

Ceir manylion y dyraniadau cyllid a gyhoeddwyd yn y tabl isod:

Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd

Ffocws ar wella cynhyrchiant busnesau a chynhyrchiant yn y gadwyn gyflenwi, cadernid busnesau a rheoli risg drwy fuddsoddiadau wedi’u targedu budsoddiad mewn pobl a thechnoleg. 

£23,000,000

22%

Y Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles 

Cefnogi prosiectau sy’n gwneud gwelliannau i adnoddau naturiol mewn ardaloedd preswyl, gan ddarparu manteision ar gyfer pobl, busnesau a’u cymunedau  

£16,500,000

15%

Creu ac Adfer Coetiroedd Glastir 

Cymorth grant i gynyddu arwynebedd y coetir sy’n cael ei blannu yng Nghymru / gwaith cyfalaf i ailstocio, ffensio a chynnal y gweithrediadau cysylltiedig ar safleoedd 

£10,000,000

9%

Y Grant Busnes i Ffermydd 

Grant i helpu busnesau ffermio i fuddsoddi mewn technoleg ac offer newydd i wella eu perfformiad technegol, ariannol ac amgylcheddol 

£8,500,000

8%

Grant Cynhyrchu Cynaliadwy 

Buddsoddiadau mewn seilwaith ar ffermydd â’r nod o wella’r ffordd mae maethynnau’n cael eu defnyddio ar ffermydd. 

£8,000,000

7%

Cyflawni Llywodraeth Cymru 

Cynnal, cefnogi a pharhau â’r gyfres o geisiadau’r RPWT (CAPIT / GIS /RPW Ar-lein) sy’n cefnogi’r gwaith o gyflawni a gweinyddu cynlluniau’r RDP 2014–2020.

£6,000,000

6%

Y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSDS) – (Ymwrthedd Gwrthficrobaidd)

Bydd y rhaglen Ymwrthedd Gwrthficrobaidd yn gweithio gyda cheidwaid anifeiliaid a milfeddygon i sicrhau bod gwrthfiotigau’n parhau i fod yn effeithiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r rhaglen hefyd yn ystyried agweddau amgylcheddol ar reoli ymwrthedd gwrthficrobaidd. 

£4,000,000

4%

Y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (Bwyd – y Cynllun Adfer o Covid-19)

Cynllun sydd â’r nod o ddatblygu ffyrdd arloesol o ddefnyddio cynhyrchion cynradd, yn benodol bwyd a gwlân, ond yn cynnwys cynhyrchion eraill. 

£3,500,000

3%

Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy 

Cynllun sy’n cefnogi prosiectau cydweithredol ar raddfa tirwedd, sy’n gweithredu i wella ein hadnoddau naturiol mewn modd sy’n sicrhau manteision i fusnesau ffermio a busnesau a chymunedau gwledig. 

£3,000,000

3%

Grantiau Bach Glastir – Dŵr

Grantiau i gefnogi buddsoddiadau mewn gweithgareddau sy’n arwain at welliannau i ansawdd dŵr, aer a phridd, wrth hefyd wella bioamrywiaeth ar ffermydd. 

£3,000,000

3%

Grantiau bach Glastir – Carbon / Tirwedd a Pheillwyr

Grantiau i wella bioamrywiaeth ar ffermydd, gan wella ansawdd aer, dŵr a phridd a rhoi manteision amgylcheddol, a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a rheoli dŵr. 

£3,000,000

3%

Y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio – (Twristiaeth Bwyd)

Cynllun sydd â’r nod o roi hwb i economi bwyd ac ymwelwyr Cymru drwy gydweithredu rhwng gweithredwyr yn y sectorau ffermio, bwyd a thwristiaeth a sectorau ategol fel y sector gwasanaethau bwyd a lletygarwch.

£3,000,000

3%

Y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio  (Rownd 6)

Cynllun i gefnogi busnesau, mudiadau a chymunedau i fod yn fwy cadarn drwy fynd i’r afael â materion megis tlodi gwledig, cynaliadwyedd ariannol, newid hinsawdd a’r amgylchedd, tlodi mewn gwaith ac allgáu cymdeithasol 

£2,970,000

3%

Y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio - (Trafnidiaeth Gymunedol)

Cynllun i gefnogi cynlluniau trafnidiaeth gymunedol lleol 

£2,400,000

2%

Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren 

Buddsoddiadau a fydd yn gwella potensial coedwigaeth neu sy’n ymwneud â symud  (cynaeafu), prosesu ac ychwanegu gwerth at gynhyrchion coedwigaeth

£2,000,000

2%

Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig 

Cynllun i greu a datblygu microfusnesau a busnesau bach nad ydynt yn fusnesau amaethyddol. 

£2,000,000

2%

Y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio - (Dulliau Arloesol a Thyfiant Cydweithredol)

Cynllun i annog a symbylu dulliau arloesol  a chyfleoedd ar gyfer cydweithredu yn y sector garddwriaeth. 

£2,000,000

2%

Cyswllt Ffermio – y Gwasanaeth Cynghori 

Cynllun i ddarparu cyngor annibynnol, i bwrpas a pharhaus, un i un neu ar gyfer grwpiau, i wella rheoli cynaliadwy a pherfformiad economaidd ac amgylcheddol busnesau bach a chanolig sy’n gweithredu yn y sectorau ffermio a choedwigaeth yng Nghymru. 

£1,875,000

2%

Y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio – (Peilot ar gyfer Cydlyniant Cymunedol a Chymorth i Adferiad Gwyrdd)

Cynllun i barhau i gefnogi’r gwaith o ailbwrpasu gweithgareddau cydlyniant cymunedol drwy feithrin arloesi, cynnal gweithgareddau peilota a manteisio i’r eithaf ar ddigideiddio. 

£1,000,000

1%

Y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio– (Camau gweithredu Peilot ar gyfer Twf Gwyrdd a’r Economi Gylchol)

Cynllun i gefnogi gweithgareddau peilot i alluogi dull sy’n cynnwys yr holl gadwyn gyflenwi; gan ychwanegu gwerth a chreu ymdeimlad o le a threftadaeth ddiwylliannol yng Nghymru drwy brosesu a marchnata cynhyrchion nad ydynt yn Atodiad I 

£1,000,000

1%

Monitro a Gwerthuso

Buddsoddiad i lywio’r gwaith o gyflawni prosiectau presennol yr CDG a datblygu Rhaglen/prosiectau ar gyfer y dyfodol 

£150,000

0%