Cyhoeddi Parth Atal Cymru Gyfan i ddiogelu dofednod rhag Ffliw Adar

Newyddion Polisi Amaethyddol Trawiadau: 1046

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru Barth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan ar 11 Tachwedd, fel mesur rhagofalus i liniaru’r perygl o heintiad yn dilyn achosion diweddar yn Lloegr.

Am fod achosion o’r Ffliw Adar H5N8 hynod bathogenaidd wedi’u canfod ymhlith adar domestig ac adar gwyllt yn Lloegr, mae lefel y risg o du’r clefyd ymhlith adar gwyllt yn uchel erbyn hyn, ac mae’r risg o drosglwyddiad uniongyrchol ac anuniongyrchol i ddofednod wedi codi i lefel ganolig.

Mae’r parth atal yn gwneud hi‘n ofynnol bod unrhyw un sy’n cadw dofednod ac adar caeth eraill yn cymryd camau priodol ac ymarferol i gydymffurfio â mesurau bioddiogelwch uwch gorfodol, gan gynnwys:

Mae’n ofynnol bod unrhyw un sy’n cadw dros 500 o adar hefyd yn cyfyngu mynediad i bobl ddianghenraid, yn newid eu dillad a’u hesgidiau cyn mynd i mewn i’r ardaloedd lle cedwir yr adar, ac yn diheintio cerbydau.

Yn ogystal, mae unrhyw gynulliadau adar wedi’u gwahardd dros dro ar draws Cymru, ond mi fydd y parth atal yn cael ei adolygu’n rheolaidd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn annog unrhyw un sy’n cadw dofednod, waeth beth yw’r nifer, i ddarparu manylion i’r Gofrestr Dofednod, fel bod modd cysylltu â nhw ar unwaith os bydd yna achosion o’r clefyd.

Dylid hysbysu’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar unwaith os amheuir bod yna achos o’r clefyd.