Crynodeb o newyddion Tachwedd 2020

Newyddion Polisi Amaethyddol Trawiadau: 1019

i) Pymtheg o wledydd Asiaidd y Môr Tawel yn arwyddo cytundeb masnach rydd mwyaf y byd

Mae pymtheg o wledydd Asiaidd y Môr Tawel, gan gynnwys Seland Newydd a Tsieina, wedi arwyddo Cytundeb Partneriaeth Economaidd Gyfun Rhanbarthol (RCEP), sef cytundeb masnach rydd mwyaf y byd.

Y gred yw y bydd yn dod â $2 biliwn ychwanegol i Seland Newydd, ond mae ‘It’s Our Future’ o’r farn na fu unrhyw ymgynghori cyhoeddus effeithiol ar y cytundeb, ac yn ôl y modelau economaidd, ni fydd yn arwain at unrhyw fudd economaidd mawr.

ii) Llywodraeth Cymru’n rhyddhau’r ystadegau TB diweddaraf

Cafodd yr ystadegau TB diweddaraf eu rhyddhau gan Lywodraeth Cymru ar 17 Tachwedd. Roedd nifer y gwartheg a gafodd eu difa yn ystod y 12 mis hyd at Awst 2020 yn 10,462, i lawr 18%, ond o’r lefel uchaf erioed y flwyddyn flaenorol.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn cynnwys rhai canlyniadau addawol, ond nid yw’r cynnydd yn digwydd ar raddfa mor gyflym â rhai ardaloedd yn Lloegr, yn arbennig yr ardaloedd hynny lle mae moch daear yn cael eu difa, sydd wedi gweld gostyngiad yn y nifer o achosion, gymaint â 66% yn Swydd Gaerloyw, a 37% yng Ngwlad yr Haf.

iii) Prif Weithredwr Dros Dro newydd ar gyfer Gwlân Prydain

Wrth i Joe Farren roi’r gorau i fod yn Brif Weithredwr Gwlân Prydain, mae Andrew Hogley, a fu’n gweithio’n agos gyda Mr Farren dros y blynyddoedd diwethaf, wedi’i benodi i gymryd ei le.

Bydd Andrew Hogley, a raddiodd o Goleg y Drindod, Caergrawnt ac sydd wedi gweithio fel dadansoddwr ymchwil yn y gorffennol, yn cael ei ddyrchafu o’i rôl bresennol fel Cyfarwyddwr Gwerthiant a Gwasanaethau Cynhyrchu Gwlân.