Bil Amaeth y DU yn darparu mwy o eglurder o ran yr ardoll cig coch

Newyddion Polisi Amaethyddol Trawiadau: 1054

Er bod gwelliant a gyflwynwyd yn gofyn bod mewnforion amaethyddol a bwyd ar ôl Brexit yn cwrdd â’r un safonau â rhai Prydain wedi’i drechu, mae Bil Amaeth y DU yn cynnwys rhai Cymalau arbennig a fydd yn fuddiol i Amaethyddiaeth Cymru a’r DU mewn ffyrdd gwahanol.

Nawr bod y Bil wedi cael Cydsyniad Brenhinol, bydd taliadau ardoll cig coch yn dod yn fwy clir, er mwyn rhoi ystyriaeth i’r drefn o ladd da byw Cymru yn Lloegr.

Mae 15 mlynedd wedi mynd heibio ers i FUW ddweud wrth Adolygiad Radcliffe o’r byrddau ardoll y dylai arian ardoll a delir gan ffermwyr Cymru am dda byw sy’n cael eu lladd yn Lloegr fod ar gael i HCC, nid AHDB erbyn hyn. Ers hynny mae’r colledion blynyddol o arian ardoll ‘Cymru’ i Loegr wedi cynyddu cannoedd o filoedd – yn bennaf o ganlyniad i gau Welsh Country Foods yn Gaerwen, ac anfon da byw i ladd-dai yn Lloegr. Bu’n nod hirdymor i bob un o’r tri bwrdd ardoll i gael mwy o reolaeth dros eu harian ardoll eu hunain, ar gyfer ymgyrchoedd domestig ac i’w fuddsoddi yn y diwydiant. Amcangyfrifir y bydd y symudiad hwn yn golygu bod dros £1 filiwn o arian lladd-dai Lloegr yn dod yn ôl i Gymru a’r Alban.

Hyd yn hyn, mae’r tri bwrdd wedi gweithio gyda’i gilydd ar raglen gydweithredol i gefnogi’r diwydiant cig ym Mhrydain, gan gynnwys, yn fwy diweddar yr ymgyrch ‘Beth Amdani’ i annog defnyddwyr i brynu cig coch er mwyn ceisio lliniaru effeithiau’r pandemig Covid-19 – a oedd yn llwyddiant ysgubol.

Unwaith y bydd wedi’i gymeradwyo gan Weinidogion y gweinyddiaethau datganoledig, bydd y cynllun newydd yn golygu bod yr ardoll cig coch yn cael ei dalu yn ôl y lleoliad y cafodd yr anifail ei fagu ynddo, yn hytrach na’r wlad lle cafodd ei ladd, dull sy’n cael ei groesawu gan Undeb Amaethwyr Cymru a’r tri bwrdd ardoll - Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), Hybu Cig Cymru (HCC) a Quality Meat Scotland (QMS).

Credir y bydd y cynllun newydd yn ei le erbyn Ebrill 2021 a bydd yn disodli’r gronfa gydweithredol bresennol. Serch hynny, mae’r tri bwrdd yn bwriadu parhau i gydweithio i ryw raddau yn y dyfodol.