Tŷ’r Arglwyddi’n trechu agweddau dadleuol Bil y Farchnad Fewnol

Newyddion Polisi Amaethyddol Trawiadau: 1088

Yn gynharach eleni, anogodd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) Aelodau Senedd San Steffan i atal Llywodraeth y DU rhag cyflwyno newidiadau arfaethedig i Fil y Farchnad Fewnol, a fyddai’n mynd yn groes i’r Cytundeb Ymadael â’r UE ac yn torri cyfraith ryngwladol.

Heb newid cyfeiriad, byddai torri’r gyfraith ryngwladol yn golygu bod y DU yn yr un categori â gwledydd a ystyrir yn gyffredinol yn annibynadwy – rhwystr mawr yn y cyd-destun presennol wrth geisio negodi cytundebau masnach rhyngwladol newydd – er bod goblygiadau hyn wedi’u deall yn iawn ar y pryd ac wedi’u trafod yn ddiddiwedd ers cyn y refferendwm.

Pleidleisiodd Tŷ’r Arglwyddi ar adrannau dadleuol y Bil ar 9 Tachwedd. Cafodd y rhan o’r Bil a fyddai wedi caniatáu i Weinidogion dorri’r gyfraith ryngwladol, a’r cymal yn caniatáu i Weinidogion ddiystyru rhannau o Gytundeb Ymadael Brexit mewn perthynas â Gogledd Iwerddon, eu trechu o 433 pleidlais i 165, ac o 407 i 148 yn y drefn honno, a chafodd adrannau eraill eu dileu heb bleidlais.

Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth eisoes wedi datgan y bydd y cymalau hyn, yn syml, yn cael eu hail-gyflwyno i’r Bil unwaith ei fod yn dychwelyd i Dŷ’r Cyffredin, gan ddweud eu bod yn cynrychioli rhwyd diogelwch cyfreithiol i amddiffyn Marchnad Fewnol y DU ac osgoi ffin galed ag Iwerddon, er gwaetha’r ffaith bod yr UE wedi rhybuddio’r Llywodraeth i newid ei hagwedd wrth i’r trafodaethau masnach barhau.

Hefyd, pleidleisiodd yr Arglwyddi o 367 i 209 i ddiwygio rhannau o’r Bil a fyddai’n sicrhau bod gan y gweinyddiaethau datganoledig rywfaint o reolaeth ar eu safonau eu hunain, fel nad yw Llywodraeth y DU yn cipio rheolaeth o Frwsel ar ddiwedd y cyfnod pontio.

Nid yw Aelodau Senedd San Steffan yn debygol o drafod y Bil eto tan fis Rhagfyr, ac mi ddylai fod yn gliriach erbyn hynny pa fath o Frexit y bydd yn rhaid inni ddelio ag ef.