Swyddfa FUW Ynys Môn yn cynnal gweminar i drafod Clefyd Coed Ynn

Newyddion Polisi Amaethyddol Trawiadau: 987

Cynhaliodd Swyddfa FUW Ynys Môn weminar ‘agored i bob aelod’ ar 19 Tachwedd i drafod Clefyd Coed Ynn, oedd yn cynnwys cyflwyniad gan Jacob Milner, Cydlynydd Clefyd Coed Ynn Cyngor Sir Ynys Môn.

Disgwylir y bydd Clefyd Coed Ynn yn effeithio ar/lladd dros 90% o goed Ynn y DU. I roi hynny yn ei gyd-destun, lladdodd Clefyd Llwyfen yr Isalmaen yn ystod y 90au tua 80 biliwn o goed Llwyfen tra gallai Clefyd Coed Ynn heintio 2 biliwn o goed Ynn.

Bydd hyn yn effeithio ar aelodau FUW a phob ffermwr ar draws y DU, oherwydd cyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw torri coed sy’n marw/peryglus sydd ar hawliau tramwy cyhoeddus, ac sydd felly’n risg i’r cyhoedd. Mae hyn hefyd yn cynnwys llwybrau troed cyhoeddus.

Gall y Cyngor, dan Ddeddf Priffyrdd 1980, gyflwyno hysbysiad 154, sy’n rhoi ffenestr o 1 mis i’r tirfeddiannwr i gwblhau’r gwaith. Os bydd hyn yn digwydd, fe’ch cynghorir i ymateb ar unwaith, hyd yn oed os nad oes modd cael y gwaith wedi’i wneud o fewn y mis. Rhaid rhoi ystyriaeth i’r ffaith bod contractwyr yn debygol o fod yn brysur iawn gyda gwaith clefyd coed ynn, ac na fydd ganddynt amser i gyflawni’r gwaith. Os na fydd yn clywed yn ôl gan y tirfeddiannwr, mae gan y Cyngor yr hawl i gwblhau’r gwaith ac yna anfon anfoneb.

Ystyrir ei bod hi’n beryglus dringo coeden sydd uwchlaw categori 3 (wedi colli dros 50% o’i dail). Mewn sefyllfa o’r fath argymhellir defnyddio platfform gwaith symudol sy’n codi (MEWP). Mae’n bwysig pwysleisio y gall clefyd coed ynn fod yn waith peryglus iawn. Mae’n well torri a thocio’r goeden cyn iddi gyrraedd lefel perygl Categori 3.

Fodd bynnag, oni bai bod coeden yn cael ei hystyried yn beryglus (Categori 3 ac uwch), ni ellir cyflawni gwaith coed rhwng Mawrth ac Awst, felly argymhellir bod y gwaith yn cael ei wneud dros y gaeaf.

Yn ogystal, mae angen trwydded i gwympo dros pum metr ciwbig o goed bob tri mis.

Mae hefyd yn bwysig ystyried a ydych chi mewn ardal gadwraeth (Parc Cenedlaethol, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac ati) all olygu bod angen caniatâd pellach. Mae gan y Cynghorau fapiau cynllunio i’ch helpu i wirio hyn.

Mi all hon fod yn broblem gostus i aelodau FUW a thirfeddianwyr oherwydd costau contractwyr trwyddedig a chau ffyrdd, os oes angen. Fodd bynnag, mae’n bwysig pwysleisio’r angen i sicrhau bod unrhyw gontractwyr a ddefnyddir wedi’u hyswirio a’u trwyddedu.

Cysylltwch â’ch Swyddfa FUW Leol am ganllawiau, neu unrhyw un o’r isod:

Llywodraeth Cymru

Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW)

Cwympo Coed: Cael Caniatâd

Dewis eich meddyg coed

The Tree Council