Her #Rhedeg1000 yn llwyddiant i elusennau iechyd meddwl yng nghefn gwlad

Newyddion Polisi Amaethyddol Trawiadau: 886

Yn ystod Ionawr 2021, galwodd her #Rhedeg1000 ar bobl o Gymru, Lloegr, Iwerddon a’r Alban i ymuno yn y ras yn eu gwlad eu hunain, a rhedeg 1,000 o filltiroedd ar gyfer elusen.

Sefydlwyd y fenter yn 2020 i gydfynd â’r Wythnos Iechyd Meddwl ym Myd Amaeth (#AgMentalHealthWeek), gyda’r ffi ymuno o £20 gan bob cyfranogwr yn mynd i bum elusen iechyd meddwl yng nghefn gwlad: The Farming Community, Embrace Farm, The Do More Agriculture Foundation, RSABI a Sefydliad DPJ.

Rhedodd cyfanswm o 1,200 o gyfranogwyr 64,785 o filltiroedd a chodi £45,438 ar gyfer y pum elusen, a chyfrannodd tîm grŵp FUW Ltd 1,156 o filltiroedd at y cyfanswm terfynol.

Dan arweiniad sylfaenydd Sefydliad DPJ Emma Picton-Jones, Cymru oedd y wlad gyntaf i gyrraedd y garreg filltir o 1,000 o filltiroedd, gan redeg y pellter hiraf yn gyfan gwbl, a denu’r nifer uchaf o gyfranogwyr, sef 567 o redwyr, gan godi cyfanswm o £12,700.