Defra’n ymateb i berthnasoedd cytundebol yn ymgynghoriad diwydiant llaeth y DU

Newyddion Polisi Amaethyddol Trawiadau: 882

Mae Defra wedi cyflwyno crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad ar arferion cytundebu o fewn sector llaeth y DU, a gynhaliwyd rhwng Mehefin a Medi 2020, yn gofyn am farn proseswyr a chynhyrchwyr ar yr angen o bosib i ddiwygio contractau llaeth y DU.

Roedd ymateb Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn cynrychioli barn ei Bwyllgor Llaeth a Chynnyrch Llaeth, a chynhyrchwyr llaeth ar draws Cymru, ac mae’n dda nodi bod mwyafrif yr ymatebion a gafwyd gan gynhyrchwyr yn rhannu safbwyntiau tebyg, gan baentio darlun clir ar gyfer Defra a’r Llywodraethau datganoledig.

Mae’r ymatebion yn darparu tystiolaeth gref bod angen deddfwriaeth ar gyfer contractau llaeth, a bod angen llinell sylfaenol statudol i sicrhau bod yr holl gontractau‘n cyrraedd safon dderbyniol. Fel y cynigiwyd gan FUW, roedd mwyafrif yr ymatebwyr, gan gynnwys cynhyrchwyr a phroseswyr, yn cytuno y dylai’r ddeddfwriaeth fod yn hyblyg ac yn glir, a dylai’r partïon contractio allu cytuno ar fanylion megis cyfnodau rhybudd a meintiau, cyn belled â bod y safonau lleiaf yn cael eu bodloni a bod y manylion yn y contractau’n glir.

Fodd bynnag, roedd y farn yn amrywio ar y dull gorau o ddatrys anghydfod yn unol â system gosbau gadarn, a mynegodd rhai o’r proseswyr bryderon y gallai’r fformiwlâu prisio oedd yn sail i bris llaeth fod yn anhyblyg.

Bydd Defra nawr yn cydweithio â’r Llywodraethau datganoledig i ddatblygu Cod Ymddygiad a sefydlu safonau cyfreithiol lleiaf ar gyfer arferion cytundebu. Roedd yna gonsensws cryf y dylai’r ddeddwriaeth hon fod yn un unffurf ar draws y DU, ond bydd Defra’n ystyried sefyllfa unigryw Gogledd Iwerddon ac yn gosod darpariaethau arbennig os oes angen.

Ceir crynodeb o’r ymatebion yma.