Ymgyrch Bathodyn Gwyrdd Blue Peter – yr Undeb yn gwneud safiad dros blant a ffermwyr

Newyddion Polisi Amaethyddol Trawiadau: 871

Unwaith eto mae FUW yn rhwystredig ynghylch safiad y BBC ar beidio â chynnwys cig coch fel rhan o ddeiet iach a chytbwys, ac mae’n arbennig o ddig ei fod wedi’i anelu at blant y tro hwn, fel rhan o ymgyrch Bathodyn Gwyrdd Blue Peter. Aethpwyd ati’n ddioed felly i daclo’r mater drwy ysgrifennu at olygydd Blue Peter, Ellen Evans, a Chyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tim Davie.

Yn ei lythyr, dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts:

“Mae rhaglenni eiconig fel Blue Peter yn cael eu gwylio gyda brwdfrydedd gan blant ledled y wlad, ac yn ddiamau mae’n cael dylanwad mawr ar eu hymddygiad a’u barn, gyda nifer o blant yn chwennych y bathodynnau sydd ar gael. Yr hyn sy’n peri pryder mawr am yr ymgyrch ddiweddaraf hon yw eich bod chi (y BBC) yn annog plant yn fwriadol i roi’r gorau i fwyta cig coch, gan ensynio bod cynhyrchu cig coch yn niweidiol i’r amgylchedd.

“Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, mae gan y BBC gyfrifoldeb dros ddarparu dadl ddiduedd. Mae hyn yn bwysicach fyth wrth gyfathrebu â phlant, ac nid yw’r wybodaeth sydd ar eich gwefan, ac yn yr ymgyrch hon, yn cwrdd â’r cyfrifoldeb hwnnw.”

Yn ei hymateb, dywedodd Ellen Evans fod Blue Peter wedi newid ei neges ‘dim cig’, ond mae’r pryderon yn parhau bod yn rhaglen yn dal i annog plant i wneud ‘addewid mawr’ sy’n eu hannog i beidio â bwyta cig.

Ceir mwy o fanylion yma.