Gwaredu BVD wedi’i ymestyn hyd ddiwedd 2022

Newyddion Polisi Amaethyddol Trawiadau: 1142

Yn sgil ail-broffilio’r rhaglen Gwaredu BVD, mae FUW wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd cymorth ar gyfer sgrinio buchesi’n parhau i fod ar gael hyd 31ain Rhagfyr 2022.

Mae BVD yn parhau i gostio oddeutu £4,500 y flwyddyn i fuches cig eidion gyfartalog a £15,000 i fuches laeth.

Ers ei lansio yn 2017, mae’r rhaglen wedi sgrinio dros 8,600 o fuchesi yng Nghymru am BVD yn rhad ac am ddim. Ar hyn o bryd mae yna:

Gyda’r estyniad hwn, bydd ffermwyr yn gymwys i gael dau sgriniad pellach ar gyfer y fuches, ynghyd â chyfle i gael statws aur. Argymhellir bod y ddau sgriniad yn digwydd o leiaf 10 mis ar wahân.

O’r 8,600 o fuchesi, mae tua 26% wedi profi’n bositif a bydd y Tîm Gwaredu BVD yn parhau i weithio gyda’r ffermwyr hynny a’u milfeddygon i nodi’r anifeiliaid sydd wedi’u heintio’n gyson o fewn y buchesi dan sylw.

Dan yr estyniad, bydd y cyllid ar gyfer chwilio am anifeiliaid sydd wedi’u heintio’n gyson (PI) yn parhau fel o’r blaen. Mae cyfanswm y cyllid sydd ar gael yn parhau i fod yn £1,000 + TAW, sy’n cynnwys ffi filfeddygol o £100 a ffi profi o £900. Bydd y buchesi hynny sydd wedi profi’n bositif ac eisoes wedi gwneud cais am chwiliad PI cychwynnol gwerth £500 yn gymwys i wneud cais am y £500 ychwanegol os bydd angen unrhyw chwiliad PI pellach.

Mae FUW o’r farn y dylid ar bob cyfrif osgoi cael bwlch rhwng y rhaglen wirfoddol a chyflwyno’r ddeddfwriaeth, er mwyn parhau gyda’r llwyddiannau mawr a gafwyd yn yr ymdrech i ddileu BVD ers 2017. Bydd yr estyniad hwn yn osgoi'r union beth hwnnw, ac yn sicrhau bod yna bontio hwylus i beth bynnag a benderfynir yn dilyn cyfnod ymgynghori yn ddiweddarach eleni.

Mae FUW yn annog ei holl aelodau i gymryd rhan yn y rhaglen wirfoddol rhad ac am ddim cyn y gwneir profion BVD yn orfodol.