Menter a Busnes yn sicrhau cyllid ar gyfer Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru

Mae Menter a Busnes wedi sicrhau cyllid i weithio ochr yn ochr â Phartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch fferm, a lleihau nifer y damweiniau ar ffermydd yng Nghymru.

Ers 2021, mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru wedi cynnwys cyfuniad cydweithredol o Randdeiliaid amaethyddol, gan gynnwys Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), sy’n gweithio ar y cyd i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch fferm a hyrwyddo arfer da, i leihau’r nifer o ddamweiniau angheuol ac anafiadau difrifol ar ffermydd.

O’r prif sectorau diwydiannol, amaethyddiaeth sydd â’r gyfradd uchaf o anafiadau angheuol ymhlith pob 100,000 o weithwyr. Yn ôl ffigurau adroddiad Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, roedd yna 3 anaf angheuol o fewn y sector amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota yn 2019/2020 ar draws Cymru, a chyfanswm o 21 ar draws Prydain.

Er ei bod hi’n bositif nodi bod nifer y damweiniau angheuol yn gostwng, bydd y swm o £69,000 a ddyfarnwyd yn galluogi Menter a Busnes a Phartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru i ostwng y gyfradd ymhellach.

Penodir Swyddog Iechyd a Diogelwch dynodedig, a bydd cyngor ac arweiniad pellach ar gael mewn cydweithrediad â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Mae FUW yn croesawu’r cyllid a’r mentrau ychwanegol a bydd yn parhau i weithio gyda Menter a Busnes a Phartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, yn ogystal â’r Llysgenhadon Diogelwch Fferm Mr Alun Elidyr a Mr Glyn Davies, i hyrwyddo diogelwch fferm.