RHWG yn gosod targedau ar gyfer dileu rhai clefydau anifeiliaid

Newyddion Polisi Amaethyddol Trawiadau: 821

Mae’r Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cnoi Cil (RHWG) wedi gosod targedau‘n ddiweddar i ddileu y clafr a BVD ar draws y DU erbyn 2031, yn ogystal â nodau eraill, mewn gweithdy a gynhaliwyd ar 29ain Mehefin.

Mynychwyd y gweithdy gan 70 o ffermwyr, milfeddygon a rhanddeiliaid blaenllaw o bob cwr o’r DU, i drafod a chytuno ar dargedau RHWG mewn perthynas â’r blaenoriaethau a nodwyd yng nghanlyniadau’r arolwg llawr gwlad diweddar.

Ar hyn o bryd mae’r clafr yn effeithio ar 10-15% o ffermydd y DU, gydag oddeutu 8,000 o achosion y flwyddyn, yn costio gymaint â £202 miliwn.

Gosododd y grŵp reolaeth gydgysylltiedig, sgrinio blynyddol gorfodol, y gallu i olrhain, a brechu i weithio tuag at ddileu’r clafr. Er bod brechlyn Moredun newydd yn cael ei ddatblygu sydd â lefel effeithlonrwydd o hyd at 80% yn ôl pob tebyg, mae angen ystyried hwn fel un arf yn yr ymdrech i sicrhau rheolaeth gynaliadwy o’r clafr yn hytrach nag ateb syml

Er bod y broses o ddileu BVD eisoes ar droed drwy gyfrwng cynlluniau datganoledig gwahanol, mae’r grŵp o’r farn mai rheolaeth orfodol drwy ddeddfwriaeth fydd y cam nesaf ar gyfer dull cydgysylltiedig ar draws y DU.

Cytunodd y grŵp hefyd i osod targed lleihau cloffni mewn buchod llaeth o 30% o flwyddyn i flwyddyn, drwy wneud gwell defnydd o’r offer a’r polisi presennol, a chasglu data cadarn a chyson.

Dywedodd Cadeirydd RHWG Nigel Miller “the aim is to create a new high-health environment across farms of the four nations before the next decade” a “we need this health platform to elevate animal welfare and play a part in securing export markets.”

Ceir mwy o wybodaeth ar wefan RHWG.