Y diweddaraf am Ffliw Adar yng Nghymru

Cafwyd adroddiadau am bum achos o Ffliw Adar yng Nghymru, yng Nghrughywel, Gaerwen, Y Waun, Y Drenewydd a’r Trallwng; hefyd mae pedwar achos dros y ffin yn Lloegr wedi effeithio ar ddaliadau yng Nghymru.

Ers 30ain Mawrth 2022 mae’r cyfyngiadau symud lleol a oedd yn eu lle yn Y Drenewydd a’r Trallwng ers yr achos o Ffliw Adar a adroddwyd ar 21ain Chwefror 2022 wedi’u codi.

Mae’r mesurau Parth Atal Ffliw Adar a gyhoeddwyd yn Nhachwedd 2021, a oedd yn galw am fwy o fioddiogelwch a gorfodaeth i gadw adar caeth o bob math dan do, yn parhau i fod mewn grym ar draws Cymru.

Yn fwyaf diweddar cadarnhawyd clystyrau o achosion o Ffliw Adar yn ardaloedd Suffolk a Gwlad yr Haf.  Yn gyfan gwbl, cadarnhawyd 103 o achosion o Ffliw Adar ymhlith adar caeth ar draws Prydain, gydag 89 o achosion yn Lloegr, 9 yn yr Alban a’r 5 arall yng Nghymru.  Mae Gogledd Iwerddon wedi cadarnhau 6 achos o Ffliw Adar.

Mae Ffliw Adar wedi’i gadarnhau ymhlith adar gwyllt mewn 247 o leoliadau o fewn 73 o siroedd ar wahân ar draws Prydain, gan gynnwys 41 o rywogaethau o adar.  Mae cyfanswm o 881 o adar gwyllt wedi profi’n bositif gyda Ffliw Adar.

Mae achosion o’r haint yn dal i ddod i’r fei ar draws Ewrop, gydag 892 o achosion ymhlith dofednod ac adar gwyllt yn Ffrainc, a 988 yn yr Almaen ers Hydref 2021.

Ar Ddydd Llun 21ain Mawrth roedd hi’n 16 wythnos ers i’r gorchymyn lletya gorfodol ddod i rym ar draws Prydain, gyda’r rhanddirymiad o ran statws ieir maes yn dod i ben o hynny ymlaen.  Erbyn hyn mae wyau oedd yn cael eu gwerthu cynt fel wyau maes yn gorfod cael eu hail-ddosbarthu’n ‘Wyau Sgubor’.  Bydd gofyn gosod stamp wyau sgubor arnynt a labelu’r pecynnau yn yr un modd.