Prisiau Gwlân Prydain yn codi

Bydd Gwlân Prydain yn talu pris cyfartalog cyffredinol o 36.4 ceiniog y cilogram i’w aelodau a gyfer cneifiad 2021, yn sgil cynnydd o 135% dros y 12 mis diwethaf.

Mi fydd prisiau cneifiad 2021 oddeutu 40c y cilogram am nifer o’r graddau craidd, tua 30c y cilogram am wlân y ddafad Benddu a thua 15c y cilogram am y ddafad Cymreig a’r Swaledale.

Telir 80c y cilogram am wlân defaid Herdwick, a £5.50 y cilogram am y Bluefaced Leicester.  Telir £1.00 y cilogram ychwanegol hefyd am y rhan fwyaf o fathau o wlân organig ardystiedig.   

Bydd cneifiad o dros ddwy dunnell yn cael 4c y cilogram ychwanegol, gan godi i 8c y cilogram am gneifiad o 8 tunnell neu fwy.

Bydd y gwlân yn dal i gael ei gasglu a’i gludo o’r holl fannau gollwng yn rhad ac am ddim, a bydd Gwlân Prydain yn dychwelyd i’r system tâl sengl ar gyfer tymor 2022.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os ydych chi am gael gwybodaeth bellach, cysylltwch â thîm Gwasanaethau Aelodau Gwlân Prydain ar 01274 688666 neu ebostiwch This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.