Edrychwn ymlaen at fwrlwm y sioeau yn dychwelyd

Trawiadau: 921

gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg

Mae’r brwsys, y stand trimio a’r coleri pen yn segur am flwyddyn arall. Am yr ail flwyddyn yn olynol, nid oes yna sioeau’n cael eu cynnal er mwyn arddangos stoc gorau Cymru a’r cyfle euraidd i gymdeithasu. Ond mae pawb yn deall y sefyllfa a’r rhesymau tu ôl i’r gohirio gyda Covid yn parhau i daflu cysgod ar ein bywyd dyddiol. Ond beth yw gwir effaith colli tymor arall o sioeau lleol a’r Sioe Fawr yn Llanelwedd?  

Mae Cornel Clecs wedi bod yn holi dau berson, sydd fel arfer wrth eu bodd ynghanol bwrlwm y sioeau, am y siom o golli tymor arall a beth yw dyfodol sioeau amaethyddol yng Nghymru?

Yn gyntaf, holwyd i Mared Rand Jones, Pennaeth Gweithrediadau, CAFC: “Yn sicr mae gohirio Sioe Frenhinol Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol oherwydd pandemig Covid-19 yn golled enfawr i’r Gymdeithas a hefyd i’r gymuned ehangach yn ariannol ac yn gymdeithasol. 

“Mae’r Sioe yn uchafbwynt y flwyddyn i nifer ohonom yng Nghymru a thu hwnt ac yn ffenest siop i’r diwydiant amaeth yng Nghymru. Mae’n gyfle da i bawb ddod ynghyd i gymdeithasu, mwynhau gwledd o gynnyrch Cymreig, cystadlu a hefyd gweld safon uchel y stoc yn y prif gylch.

“Mae Sioeau Amaethyddol yn binacl yr Haf i nifer ohonom ac rydym sicr yn edrych ymlaen pan fyddwn yn medru ail gydio a mynychu Sioeau unwaith eto boed yn cystadlu, beirniadu, stiwardio, y stondinau masnach neu fynychu i fwynhau holl weithgareddau sydd gan y Sioeau i’w cynnig. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn her i ni gyd ac rydym yn ddiolchgar dros ben am bob cefnogaeth barhaus.

“Mae ail-ddechrau cynnal Sioeau yn mynd i fod yn sialens ond dwi’n ffyddiog bod dyfodol Sioeau Amaethyddol yn ddiogel ac mi fydd yn well nag erioed pan wnaiff ail-ddechrau. Mae’r Sioeau Amaethyddol yn asgwrn cefn ein cymunedau ac yn gyfle arbennig i hyrwyddo ein diwydiant. Rwy’n edrych ymlaen at weld y bwrlwm ar feysydd y sioeau unwaith eto.”

Ac yna, ein Llywydd Glyn Roberts: “Mae’r Covid wedi effeithio ar bob agwedd o fywyd, un ohonyn nhw ydi gorfod gohirio sioeau bach Cymru, mae hyn wedi cael effaith mewn mwy nag un ffordd.

“Mae diwrnod sioe leol yn ddiwrnod i’r teulu cyfan, cyfle i’r plant gael cystadlu a chwarae, cyfle i fwynhau gwledd celf, chrefft, coginio a’r cynnyrch gardd, cyfle i edmygu anifeiliaid y fferm ac yn fwy na dim yn gyfle i gymdeithasu. Mae colli’r cyfle yma wedi bod yn ergyd i lawer iawn. Mawr obeithiwn y bydd modd at ddiwedd yr Haf y cawn fwynhau rhai o’r sioeau bach lleol.

“Yng nghydestun ehangach mae’r un gwerthoedd yn wir am ein pererindod flynyddol i’r Sioe Fawr yn Llanelwedd, cyfle i gyfarfod ffrindiau na fyddwn ond yn eu gweld yn flynyddol yn Llanelwedd lle bydd cryn siarad a rhoi’r byd yn ei le.

“Elfen arall rydym yn ei golli o beidio cynnal y Sioe Fawr yw’r pwysigrwydd o fod yn ffenestr siop wych i’r diwydiant i gynulleidfa niferus sydd yn heidio i’r Sioe o’r cymoedd a’r dinasoedd, a thu hwnt i Gymru.

“Rwy’n siŵr fod pawb yn edrych ymlaen unwaith eto i ail afael ym mwrlwm y Sioeau a chael nerth a hwyl yng nghwmni ein gilydd.”

Yma fe fu lle ith ddoniau

Yma fe wneir ffrindiau oes.

(Ein Alaw Ni, Ruth Owen)

Diolch i Mared a Glyn am eu safbwyntiau, ac mae un peth yn sicr felly, mae pawb yn aros yn eiddgar at weld y sioeau yn ail gychwyn eto. Gobeithio daw yna haul ar fryn ar ein sioeau bach a mwy. Amdani yn 2022!