Amaeth yn cael ei adnabod fel y diwydiant perycla ym Mhrydain - sut fedrwn ni wella’r sefyllfa?

Trawiadau: 1310

gan Alun Edwards, Llysgennad y Bartneriaeth Diogelwch Fferm

Faint ohonoch chi sy’n adnabod rhywun sydd wedi dioddef damwain ar y ffarm? Pob un, fentra i awgrymu, a nifer wedi colli perthynas neu gyfaill. Mae’n digwydd er gwaethaf yr holl gyrsiau hyfforddiant sydd ar gael, yn rhad neu ddigost yn aml, a’r ymdrechion cyson i godi ymwybyddiaeth o’r peryglon sydd ynghlwm a gyrfa amaethyddol.

Felly be nesa? Sut fedrwn ni wella’r sefyllfa ble mae amaeth yn cael ei adnabod fel y diwydiant peryclaf ym Mhrydain? 

Un peth sy’n sicr, mi fydd y dyfodol yn cynnwys mwy o gofnodion. Mi fydd angen asesiad risg cyn dechrau gwaith, a thechnoleg i gofnodi hynny. Pan dwi’n mynd allan i ffilmio ar gyfer Ffermio, mae hynny’n orfodol yn feunyddiol. Mae’n dempled syml, ond mae angen ei ddiweddaru o dro i dro drwy fynychu cwrs, ac ym maes amaeth mae dirfawr angen gwell cyfathrebu a chydymdeimlad o dy’r darparwyr yn y cyd-destun yma.

Mi fydd contractwyr angen cofnod o asesiad risg cyn cynnig gwasanaeth i chi, drwy drafodaeth a falle ymweliad ar ffurf recce. Cost ychwanegol medde chi. Os na fedrwch ei fforddio, fedrwch chi fforddio canlyniad damwain fydd yr ymateb.

Mi fydd yswirwyr yn cynyddu’r defnydd o foronen a ffon; yn galw am dystiolaeth o gymhwyster hyfforddi cyn yswirio tractor, cwad a tharw, yn gofyn am brawf o bryniant helmed, ac wrth gwrs yn cynnig disgownt am leihau’r risg yn sgil hynny.

Mi fydd F.A.W.L. yn gofyn am dystiolaeth debyg cyn achredu’ch busnes, ar ffurf uwchsgilio drwy ennill cofnod sgiliau Cyswllt Ffermio o bosib.

Mi fydd rheoleiddwyr yn edrych o ddifri ar M.O.T. ar gyfer tractorau. Mae’n anghredadwy nad oes angen un ar gyfer gwaith ffordd yn barod, a chwarae teg dwi’n nabod sawl ffarmwr sy’n mynd trwy’r broses yn wirfoddol er mwyn cael tawelwch meddwl.

Mi fydd sgwrs gynyddol am ddiogelwch yn y gwaith fel “nwyddau cyhoeddus”. Os ydi Llywodraeth yn gorfodi mwy o storfeydd slyri arnom, beth yw’r peryglon o gynyddu hydrogen sylffid, methan a charbon deuocsid yn y gweithle, heb sôn am y drosedd annelwig o lygru awyr?

Mae’r cysyniad o drwydded i ffermio wedi’i grybwyll ers blynyddoedd, a record iechyd a diogelwch diffygiol y diwydiant yn prysuro dydd ei gyflwyno. Arnom ni fel ffermwyr mae’r cyfrifoldeb i wella’n amodau gwaith. Mae newid mawr ar droed dros y blynyddoedd nesa ac mae’n rhaid i ni ymateb yn gadarnhaol, neu orfodaeth fydd ei diwedd hi. Ac mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol o’n delwedd ehangach drwy arddangos ymarfer da ar y cyfryngau cymdeithasol.

I orffen ar nodyn personol, er gwaethaf fy mhenodiad fel llysgennad y Bartneriaeth Diogelwch Fferm, mae’r rhan fwyaf o’r galwadau dwi’n ei derbyn yn ymwneud ag iechyd meddwl gwael ymysg ffermwyr. Mae’n epidemig o fewn y diwydiant, ac unwaith eto, mae’n rhaid i ni ymateb; mae ‘na ofynion lu, ond dydyn ni ddim yn unigryw yn hynny o beth cofiwch.

Diolch am eich sylw ac o ddifri, cadwch yn ddiogel.