“Braint oedd cael cyd-weithio gyda Mel”

Trawiadau: 926

gan Gwyn Williams, Cyn Swyddog Ardal Sir Ddinbych

Trist yw cofnodi marwolaeth Mel Williams o Fae Colwyn wedi salwch byr. Bu Mel yn Swyddog Sir yn siroedd Dinbych a Fflint o Undeb Amaethwyr Cymru am ddeuddeg mlynedd, rhwng Hydref 1989 a Thachwedd 2001. Roedd dilyn Meurig Voyle fel Swyddog Sir yn y siroedd yma yn her ac yn gryn gamp, ond llwyddodd Mel i wneud hynny gydag arddeliad a dycnwch arbennig iawn.

Yn fab fferm o Gynwyd, ger Corwen, ond wedi treulio 30 mlynedd fel Heddwas, Sarjant, ac y”n diweddu ei yrfa fel Arolygwr gyda Heddlu Gogledd Cymru. Bu’n aelod o CID y llu, ac fe ddefnyddiodd yr un doniau o weithredu’n drylwyr, gofalus a phenderfynol fel swyddog o Undeb Amaethwyr Cymru, a hynny trwy gyfnodau llawn trafferthion a helbulus, i’r diwydiant yn gyffredinol a hefyd i aelodau unigol. 

Ar ei union wedi dechrau gyda’r Undeb, daeth yn boblogaidd eithriadol gyda’r aelodau. Cofiaf y diweddar Lloyd Williams Y Pentre, Rhuddlan yn datgan gyda gwên y byddai wedi hoffi holi un cwestiwn arall i Mel yn ystod ei gyfweliad, sef faint o amser a gymerodd Mel i ddatblygu’n heddwas. Byddai’r ateb, meddai Lloyd Williams, yn rhoi syniad faint o waith oedd tynnu’r plismon allan o Mel! Ond defnyddio ei ddawn fel heddwas i gynorthwyo ac i ddatrys problemau’r diwydiant amaeth a wnaeth Mel, a hynny gyda graen arbennig.

Yn ystod blynyddoedd ei wasanaeth, cafwyd argyfyngau, un ar ôl y llall; BSE, Clwy’r Traed a’r Genau, argyfwng pris tanwydd a blocâd Stanlow; a dyma hefyd ym 1993 ddechrau cofnodi manylion y tir o dan y Cynllun IACS.

Cofiaf dreulio oriau mewn ystafelloedd yn cofnodi manylion caeau a choedydd; Mel yn fwy na bodlon i ddal ati gyda phaned a smoc yn unig i’w gynnal!

Byddai’r diweddar Brynley Williams Cefn Melyn, Cilcain yn fawr ei glod i Mel am ei berswadio i sefyll am sedd, ac ennill y sedd ym mlynyddoedd cynnar y Cynulliad. Bu ymdrechion Mel yn allweddol i gael swyddfa i swyddogion ardal yn Llanrwst, trefn sydd ar hyd a lled Cymru erbyn hyn. Bu’n fraint fawr i mi i gael cyd weithio gyda Mel dros y 12 mlynedd a phrofi o’i gyfeillgarwch a’i gefnogaeth.

Dyma englyn o waith y diweddar Gwilym Morris, Llechryd, Llannefydd i Mel ar ei ymddeoliad yn Nhachwedd 2001.

Trwy bennod ein trybini - ti fu’n dyst,

Ti’ fu’n dŵr mewn cynni.

Yma’n un ohonom ni,

‘N ein harwain a’n cynghori.