Angerdd Elis dros gneifio

Trawiadau: 971

gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg

I nifer o ffermydd ar draws y wlad, mae’r tymor cneifio wedi cyrraedd, a ninnau yma ddim gwahanol, ac wedi cyflawni’r dasg ddiddiolch ond hanfodol yn slic iawn ar un penwythnos hyfryd o haf.  

O hel y defaid i mewn o bob cwr o’r fferm i bacio’r sachau gwlân, mae’r dasg yn un llafurus. Ond er bod y gwaith yn galed, mae’n galonogol iawn gweld bod pobl ifanc yn cymryd cymaint o ddiddordeb ag erioed ac yn camu mewn i ddysgu’r grefft.  

Dyma’n union beth yw hanes Elis Ifan Jones un o’n haelodau ni o Landdeiniolen, Caernarfon. Yn fab fferm 17 mlwydd oed, cyhoeddwyd mai Elis yw enillydd Rhaglen Hyfforddiant a Datblygiad newydd Gwlân Prydain. Lansiwyd y Rhaglen newydd hon yn gynharach eleni i gynnig cyfle i un enillydd o bob gwlad yn y DU ennill 12 mis o hyfforddiant yn ogystal â phecyn gwobr Cneifio Lister gwerth £500.

Mae gan Elis ddiddordeb mawr mewn cadw defaid gyda’i deulu sy’n ffermio 2,000 o ddefaid - gyda hynny mewn golwg, hoff amser Elis o’r flwyddyn yw’r tymor cneifio bob amser. Cafodd Cornel Clecs gyfle i gael sgwrs gydag Elis a’i holi beth yn union oedd gofynion y gystadleuaeth a beth yw ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Beth oedd yn rhaid i ti ei wneud ar gyfer y gystadleuaeth?

Ar gyfer y gystadleuaeth yma y gofyn oedd ysgrifennu neges e-bost i’r Bwrdd Gwlân yn rhoi rhesymau pam yr oeddwn i’n meddwl y dyliwn gael fy ystyried ar gyfer y wobr, ac yn dilyn hynny, roedd y Bwrdd Gwlân yn dewis rhestr fer o’r ymgeiswyr gorau. Y cam nesaf wedyn oedd cael fy ngwahodd am gyfweliad rhithwir dros Zoom. Roedd y panel wedyn yn dewis un enillydd oedd yn dod i’r brig o bob gwlad ym Mhrydain.

Beth mae ennill y Rhaglen hon yn golygu i dy gynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Mae ennill y wobr hon yn fuddiol iawn i mi ar gyfer gwella fy sgiliau cneifio. Credaf fod y cyrsiau mae’r Bwrdd Gwlân yn eu rhedeg yn gyrsiau hanfodol i unrhyw un sydd eisiau dysgu’r grefft yn gywir - mae cneifio yn swydd anodd felly mae’n bwysig dysgu’r ffordd fwyaf rhwydd o’i gwneud. ‘Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at fynd ar y cwrs ar sut i ofalu am y peiriant cneifio ayb, ‘rwy’n siŵr y bydd yn addysgiadol ac mae’n rhan mor bwysig o wneud y gwaith mor effeithiol â phosib. ‘Rwy’n gobeithio y bydd ennill y wobr hon hefyd yn fy helpu ar gyfer gallu teithio’r byd gyda chneifio yn y dyfodol.

Sut mae’r tymor cneifio wedi mynd eleni?

Mae’r tymor cneifio eleni yn mynd yn dda hyd yn hyn. Ar ôl dechrau eithaf anodd gyda nifer o ddiwrnodau gwlyb mae yn prysuro rŵan gyda ffermwyr ar dân eisiau cneifio, felly anodd cadw pawb yn hapus ar adegau!

Dywedodd Richard Schofield, Rheolwr Cneifio, Gwlân Prydain: “Ar ran Gwlân Prydain rwy’n llongyfarch Elis ar ei gyflawniad wrth ennill y gystadleuaeth hon yng Nghymru. Roedd safon y cystadleuwyr yn uchel iawn ac roedd angerdd Elis dros gneifio ac eisiau datblygu ymhellach ar ei wybodaeth a’i sgiliau presennol yn amlwg.”

Llongyfarchiadau mawr i ti Elis ar dy lwyddiant, ac mae’n braf gweld person ifanc yn llawn brwdfrydedd ac yn barod i ddysgu a gwella sgiliau. Pob lwc gyda’r cneifio ac edrychwn ymlaen at glywed rhagor o’r hanes wrth i ti deithio’r byd yn cneifio.