Mae’n rhaid i natur, cadwraeth a chynhyrchu bwyd fynd law yn llaw, yn ôl Carwyn Jones, ffermwr bîff a defaid o Sir Drefaldwyn. Mae'n ffermio yn Nhŷ Mawr, Dolanog yn Nyffryn Efyrnwy tua 14 milltir o'r Trallwng a 6 milltir o lyn Efyrnwy. Mae'r fferm bîff a defaid 160 erw wedi bod yn y teulu ers cenedlaethau lawer, gyda Carwyn yn cymryd rheolaeth lawn o'r daliad oddi wrth ei ewythr yn 2002.
Wrth ddisgrifio’r tir dywed: “Mae’r rhan fwyaf o’r tir yma yn eithaf serth. Nid oes llawer o bridd, tua 2 fodfedd o bridd a 2 filltir o graig. Felly mae'n rhaid i mi reoli hynny'n ofalus. Mae gennym lawer o goetir o amgylch y fferm ac rwyf hefyd yn edrych ar ôl oddeutu 30 erw o'n coetir ein hunain ar y fferm. Mae cymaint o amrywiaeth o rywogaethau adar a bywyd gwyllt o gwmpas ac rwy’n credu’n gryf bod hynny’n bodoli oherwydd sut mae’r tir hwn yn cael ei reoli.”
Yn blygwr gwrych penigamp, mae Carwyn wedi sefydlu dros filltir o wrychoedd wrth ochr y fferm ar bob ochr i'r trac ac wedi plannu dros 600 o blanhigion gwrychoedd newydd yn ddiweddar. “Ar y cyfan, rydw i'n edrych ar ôl tua 4 milltir o wrychoedd ar dir y fferm. Rwyf bob amser wedi bod yn ffan o wrychoedd a choed. I mi, rwy'n gwneud yr hyn rwy'n ei wneud o ran natur a gwaith cadwraeth am y cariad o'i wneud. Rwy'n dwlu ar wrychoedd a'r buddion a ddaw yn eu sgil i'r tir a bywyd gwyllt."