Gydag ychydig dros chwe wythnos i fynd cyn diwedd cyfnod ymadael yr UE, a’r UE a’r DU wedi dod i gytundeb ar nifer o feysydd mewn trafodaethau masnach - ond bod pysgodfeydd a rheolau cymorth gwladwriaethol yn parhau i fod yn rhwystrau mawr wrth i’r trafodaethau gyrraedd y camau diwethaf - mae'r FUW wedi annog y DU a'r UE i osgoi trychineb o Frexit heb gytundeb, a hynny ar bob cyfrif.
Daw’r alwad ddiwrnod ar ôl i Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig George Eustice gydnabod ar sioe Andrew Marr y BBC y byddai’r sector defaid yn wynebu heriau penodol mewn senarios heb gytundeb oherwydd tariffau o oddeutu 40% ar allforion cig oen i’r UE, ond ceisiodd leddfu’r effeithiau ar gyfer sectorau amaethyddol.
Dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts, “Y gwir amdani yw y byddai methu cytuno ar gytundeb fasnach yn cael effaith drychinebus, a hynny’n gyflym iawn, ar ein sectorau amaethyddol gyda’r sector defaid yn debygol o deimlo’r effaith fwyaf difrifol.
“Byddai hefyd yn achosi aflonyddwch aruthrol i fwyd a chadwyni cyflenwi eraill ac yn achosi anrhefn lwyr yn ein porthladdoedd.”
Dywedodd Mr Roberts y byddai methiant o’r fath hefyd yn cael effeithiau dinistriol ar fusnesau’r UE, a’i bod felly er budd yr UE a’r DU i fynd ati o ddifrif i gytuno ar gytundeb.