FUW yn galw am sicrwydd pellach i ddiogelu sectorau bregus ar ôl Brexit yn dilyn adroddiadau ar doriadau tariff

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn galw am sicrwydd pellach gan Lywodraeth y DU y bydd sectorau bregus yng Nghymru, megis y diwydiant defaid, yn cael eu hamddiffyn mewn sefyllfa o Brexit Heb Gytundeb.  Daw'r alwad yn dilyn adroddiadau bod y llywodraeth yn bwriadu torri 80-90% o'r holl dariffau a osodir ar nwyddau sy’n cael eu mewnforio i Brydain.

Wrth siarad ar ei fferm yng Ngogledd Cymru, dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts: "Rydym wedi cwrdd â swyddogion y Llywodraeth a'r cyn Weinidog dros Ffermio George Eustice dros yr wythnosau diwethaf, ac wedi pwysleisio bod da byw, ac yn arbennig y diwydiant defaid, ymhlith y mwyaf bregus yn sgil pob un o'r sefyllfaoedd Brexit posibl.

"O gofio dylanwad y sector da byw yng Nghymru a bod gennym 30% o boblogaeth defaid y DU, mae ein cenedl yn agored iawn i'r peryglon, felly mae angen i Lywodraeth y DU sicrhau bod tariffau a Chwotâu Cyfradd Tariff wedi'u gosod ar lefelau sy'n diogelu ein diwydiant."

Dywedodd Mr Roberts bod hi’n galondid gweld y nifer o ymrwymiadau i ddiogelu amaethyddiaeth y DU gan yr Ysgrifennydd Gwladol Michael Gove a George Eustice dros yr wythnosau diwethaf.

Fodd bynnag, roedd aelodau eraill o'r Cabinet wedi bod yn lleisiol wrth argymell tariffau isel neu sero a fyddai'n niweidiol i nifer o ddiwydiannau, a dydd Mawrth (Mawrth 6) adroddodd Sky News fod yr Adran Masnach Ryngwladol (DIT) yn bwriadu torri 80-90% o'r holl dariffau a osodir ar nwyddau sy’n cael eu mewnforio i Brydain, gan gynnwys llawer o gynhyrchion amaethyddol.

"Byddai gweithredu toriadau o'r fath yn ddinistriol ac yn cynrychioli brad gan y llywodraeth. Felly, rydym yn galw am sicrwydd na fydd y dogfennau tariff sydd i'w cyhoeddi yn ystod y dyddiau nesaf yn cynnig toriadau o'r fath," meddai Mr Roberts.

Ychwanegodd Llywydd yr Undeb y byddai FUW hefyd yn annog ASau i atal unrhyw gynigion o'r fath pe baent yn cael eu cyhoeddi.

"Mae angen tariffau a chwotâu ar fewnforion sy'n rhoi'r amddiffyniad angenrheidiol i bob un o'n diwydiannau, ac yn y sefyllfa waethaf o Brexit heb gytundeb, rydym yn disgwyl i Lywodraeth y DU a'r Senedd ddiogelu ein hanghenion ffermio a diwydiant bwyd," dywedodd.

Brecwastau FUW wedi codi bron £15,000 i elusen

Mae wythnos Brecwast Ffermdy blynyddol FUW wedi codi mwy nag ymwybyddiaeth o'r bwyd gwych sy'n cael ei gynhyrchu gan ffermwyr trwy gydol y flwyddyn.Yn ystod yr wythnos (21-27 Ionawr) cynhaliwyd dros 27 o frecwastau ledled Cymru, sydd wedi codi bron £15,000 ar gyfer apêl elusen Llywydd yr FUW.

Dywedodd Glyn Roberts, Llywydd FUW: "Mae ein staff, aelodau a’r gwirfoddolwyr gwych wedi gwneud gwaith anhygoel unwaith eto eleni. Bydd yr arian sydd wedi cael ei godi yn mynd i'n hachosion elusennol - Cymdeithas Alzheimer Cymru a'r FCN - ac mae bron £35,000 yn y gronfa hon hyd yn hyn.

Cyfarfod Blynyddol FUW Meirionnydd yn edrych ar y berthynas rhwng ffermwyr a Llywodraeth Cymru yn y dyfodol

Cynhaliodd cangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru ei Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar y thema ‘Y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru fel gweinyddwyr ffermio, a ffermwyr fel ymarferwyr yn y dyfodol’ ar ddydd Gwener 25ain o Ionawr yng nghlwb rygbi Dolgellau.

Siaradwyr gwadd y noson oedd Pennaeth yr Is-adran Amaeth – Cynaliadwyedd a Datblygu Llywodraeth Cymru, Gary Haggaty, enillydd Categori Newydd-ddyfodiaid Gwobrau Ffermio Prydain sy’n ffermwyr tenant o Abercegir, ger Machynlleth Rhidian Glyn a Rheolwr Defnydd Tir RSPB Arfon Williams.

FUW yn dweud bod effeithiau trychinebus gadael yr UE, yr undebau tollau a'r farchnad sengl i’w gweld yn barod

Wrth siarad yn ugeinfed brecwast ffermdy blynyddol Undeb Amaethwyr Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol, rhybuddiodd Llywydd yr FUW, Glyn Roberts, bod yr effeithiau trychinebus o adael yr UE, yr undeb tollau a'r farchnad sengl ar 29 Mawrth yn cael eu gweld yn barod.

Dywedodd Mr Roberts wrth Aelodau'r Cynulliad: "Bydd yr effaith i’w weld fwyfwy dros yr wythnosau nesaf: Bydd cytundebau'n cael eu colli, bydd prisiau'n cael eu heffeithio a bydd busnesau Cymru'n dioddef."

FUW yn annog eu haelodau i wneud apwyntiad SAF 2019

Mae’r amser yna o’r flwyddyn wedi cyrraedd unwaith eto wrth i ni ddechrau meddwl am Ffurflenni’r Cais Sengl (SAF). Mae ffenestr y cais yn agor dydd Llun 4 Mawrth ac mae Undeb Amaethwyr Cymru yn atgoffa ei haelodau bod staff y sir yn barod i helpu a chymryd y baich o lenwi'r ffurflen.

Mae'r FUW yn darparu'r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn i’w holl aelodau fel rhan o'u pecyn aelodaeth, sydd wedi bod yn amhrisiadwy i filoedd o aelodau dros y blynyddoedd - gan arbed amser ac osgoi’r pen tost o waith papur.

FUW yn siomedig gyda dyfarniad Comisiynydd Gwybodaeth yn dilyn Llywodraeth Cymru yn rhyddhau manylion fferm

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn siomedig gyda dyfarniad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth nad oes angen ‘gweithredu ymhellach’ yn dilyn Llywodraeth Cymru yn rhyddhau manylion personol ffermydd yn ddamweiniol.

Cafodd enw a lleoliad y ffermydd hynny a ddewiswyd ar gyfer difa moch daear fel rhan o Raglen Dileu TB Gwartheg newydd Llywodraeth Cymru eu rhyddhau yn ddamweiniol gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf y llynedd yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth.

Yna cafodd y wybodaeth hon ei roi ar gyfryngau cymdeithasol gyda rhai eithafwyr gwrth-ddifa yn galw am ymgymryd ag ymddygiad a allai fod wedi bygwth diogelwch teuluoedd ffermio.

Dywedodd Dr Hazel Wright, Uwch Swyddog Polisi FUW: "Rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru bellach wedi rhoi dulliau gweithredu ar waith i leihau'r tebygrwydd y bydd y camgymeriad hwn yn digwydd eto ac rydym yn gobeithio bod yna wersi wedi cael eu dysgu.

"Fodd bynnag, mae’r diffyg ymateb mwy cadarn gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ddim yn lleddfu’r posibilrwydd o hyn yn digwydd eto yn y dyfodol.

“Roedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod rhyddhau’r fath wybodaeth yn fwriadol neu'n anfwriadol yn debygol o arwain at dargedu gan eithafwyr hawliau anifeiliaid, gan gynnwys gweithgarwch anghyfreithlon a bod bygythiadau'n cael eu gwneud.”

Dywedodd Dr Wright y dylid cofio hefyd bod llawer sy’n cadw gwartheg yng Nghymru yn parhau i weithredu eu busnesau o dan nifer o reolaethau TB beichus a chostus, a bod ffermwyr yn gallu derbyn cosbau ariannol am gamgymeriadau neu ffactorau sydd wirioneddol allan o’i rheolaeth.

"Yn naturiol, byddai ffermwyr yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gael eu trin yn yr un modd, camgymeriad ai peidio.

"Mae'r FUW yn bryderus iawn, heb fesurau cadarn i ddiogelu teuluoedd ffermio, bydd y rhai sy’n cadw gwartheg yng Nghymru yn parhau i gael eu gosod mewn sefyllfa fregus.

"Rydyn ni wedi gwneud ein sefyllfa ar y mater hwn yn glir i swyddogion Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro," meddai Dr Wright.

Mae FUW yn parhau i fod yn rhwystredig iawn ac yn poeni ynglŷn â phorth gwybodaeth TB sy’n agored ar hyn o bryd ac wedi ysgrifennu sawl gwaith at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynglŷn â hyn.

"Mae’r ffaith bod ffermwyr gwartheg yn agored i gael eu poeni gan grwpiau gwrth-ddifa bellach wedi'i gofnodi'n dda. Mae'r defnydd cynyddol o gyfryngau cymdeithasol wedi darparu porth ar gyfer lledaenu gwybodaeth yn gyflym, rhad a chyffredin. Byddwn yn parhau i bwyso am gael mynediad cyfyngedig i wybodaeth TB er mwyn sicrhau bod teuluoedd ffermio'n cael eu diogelu rhag gwarcheidwadaeth ac ymddygiad bygythiol gan eithafwyr hawliau anifeiliaid," ychwanegodd Dr Wright.

Diwedd