UAC yn galaru aelod am oes Meurig Voyle

Yn drist iawn, mae Meurig Voyle, un o hoelion wyth Undeb Amaethwyr Cymru, a benodwyd yn Swyddog Gweithredol Sir Dinbych yn ystod 1966, ac wedi hynny yn ystod 1968, bu’n gyfrifol hefyd am sir y Fflint wedi marw.

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: "Mae'r byd amaethyddol wedi colli un o'i chefnogwyr mwyaf ac mae UAC wedi colli ffrind, ac aelod o’r teulu. Dywedodd wrthyf unwaith y bu’n briod ddwywaith, i’w wraig ac yna i UAC - roedd yn gymeriad unigryw. Bydd colled ddifrifol ar ôl Meurig ac mae ein meddyliau gyda'i deulu ar yr adeg anodd hon."

Addysgwyd Meurig Voyle yn Ysgol Gynradd Llanddarog ac Ysgol Ramadeg y Frenhines Elisabeth lle enillodd lliwiau rygbi’r ysgol.

Yn dilyn blwyddyn o ysgoloriaeth Ysgol Iau'r Weinyddiaeth yn Ysgol Amaethyddiaeth, Durham, ymunodd â'r Magnelwyr Brenhinol ac enillodd tystysgrif Cadlywydd Trefaldwyn yn y maes.

Mr Voyle oedd un o aelodau gwreiddiol Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Tywi, ac ar ôl y rhyfel, sefydlodd Clwb Ffermwyr Ifanc Llanddarog, ac ef oedd y Cadeirydd cyntaf.

Yn ddiweddarach, daeth yn Arweinydd y Clwb, ac yn ystod y cyfnod hwn, trefnodd y Clwb sioe amaethyddol, a elwir heddiw yn Sioe Amaethyddol Llanddarog a'r Ardal.

Cyn ymuno â UAC fel Ysgrifennydd Cynorthwyol Sirol ym 1961, cafodd ei gyflogi gan Fwrdd Marchnata Llaeth ac yn Hufenfa ‘Dairies United’ yng Nghaerfyrddin.

Ymddeolodd Mr Voyle o UAC yn ystod 1989 ond mi gadwodd mewn cysylltiad agos iawn â'r Undeb, a hyrwyddo’r Undeb yn ddiwyd drwy gyflwyno hanes sefydlu UAC i nifer o sefydliadau.

Roedd Mr Voyle, a oedd yn 93 oed, hefyd yn ffigwr cyfarwydd yn cyfarch ymwelwyr ym mhafiliwn Undeb yr UAC, ochr yn ochr â phrif gylch y Sioe Frenhinol, tasg a berfformiodd am 53 mlynedd yn rhinwedd ei swydd fel gofalwr pafiliwn yr Undeb, a cyn hynny yn y babell ar faes y sioe.

"Ers i’r Sioe Frenhinol symud i Lanfair-ym-Muallt, mynychodd Meurig bron bob sioe o 1963 hyd at 2017, heblaw am y cyfnod roedd ei wraig yn yr ysbyty, sy'n enghraifft arall o'i ymrwymiad mawr i UAC ac amaethyddiaeth.

"Mae'n bosibl mai ef yw'r unig berson gyflawnodd hyn. Fe wnaeth pawb ohonom ei golli eleni ac yn sicr ni fydd yr un fath hebddo," ychwanegodd Glyn Roberts.

Yn ystod 1991 cafodd ei anrhydeddu gyda Gwisg Werdd yr Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug fel Meurig o Fyrddin.

 

 

 

Llwyddiant ysgubol Sioe Sir Meirionnydd

Cafodd cangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru sioe sirol lwyddiannus a gynhaliwyd yn Ystâd y Rhug ger Corwen ddydd Mercher, (Awst 22), gyda #AmaethAmByth ac ymgynghoriad cyfredol Llywodraeth Cymru ar ddyfodol amaethyddiaeth ar frig yr agenda.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Feirionnydd Huw Jones: "Roedd y sioe ei hun yn llwyddiant eithriadol ac roeddem yn falch o fod yma wrth iddynt ddathlu'r dathliadau 150 oed. Mae'r sioe undydd hon yn mynd o nerth i nerth.

UAC yn chwilio am brif gyfrannwr i amaethyddiaeth Sir Gaerfyrddin

 

Mae cangen Caerfyrddin o Undeb Amaethwyr Cymru yn chwilio am enwebiadau ar gyfer Gwobr UAC – Cymdeithas Sioe Amaethyddol a Helwyr y Siroedd Unedig i’r un sydd wedi gwneud y cyfraniad eithriadol mwyaf i amaethyddiaeth yn Sir Gaerfyrddin yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Bydd y beirniaid yn cynnwys cynrychiolwyr o UAC, Banc HSBC Plc a Chymdeithas Sioe Amaethyddol a Helwyr y Siroedd Unedig. Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno yn nigwyddiad UAC a fydd yn cael ei chynnal noson cyn y Sioe Laeth.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaerfyrddin David Waters: "Dylai'r enwebiad fod ar ffurf llythyr neu eirda sy'n rhoi manylion llawn am waith a chyflawniad yr enwebedig gyda phwyslais mawr ar yr effaith gadarnhaol neu fuddiol ar amaethyddiaeth yng Nghaerfyrddin.”

Mae cyn enillwyr y wobr yn cynnwys John James (2004), David Lewis FRICS FRAgS (2005), Bryan Thomas FRAgS (2006), Haydn Jones FRAgS (2007), Lynn Davies ARAgS (2008), Dai Lloyd (2009), Eirios Thomas (2010), Brian Walters (2011), Roy Davies FRAgS (2012), Meinir Bartlett (2013), Mary James (2014), Y Parchg. Canon Eileen Davies (2015), Rita Jones (2016) a Brian Jones MBE FRAgS (2017).

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Llun Hydref 8.

Cynnig Llywodraeth Cymru o fenthyciad ym mis Rhagfyr yn dangos eu bod nhw wedi colli gafael â goblygiadau’r tywydd

Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru na fydd y taliad sylfaenol yn cael ei dalu’n gynt ac ni fydd benthyciadau brys ar gael tan fis Rhagfyr yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru wedi colli gafael â goblygiadau’r tywydd eithafol y 12 mis diwethaf ar ffermwyr.

Dyna farn UAC ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ddydd Iau (Awst 24), gan gadarnhau na fyddai'n dilyn esiampl Llywodraeth yr Alban a chynnig benthyciadau o ddechrau mis Hydref ymlaen.

Yn hytrach, nid yw’n bwriadu newid dyddiad y taliad sylfaenol arferol ym mis Rhagfyr, ac ond yn cynnig benthyciadau i’r pump i ddeg y cant o ffermwyr na fydd yn derbyn taliadau erbyn y dyddiad hwnnw.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: "Yn eironig, fe wnaeth Plaid Lafur yr Alban feirniadu Llywodraeth yr Alban am fod yn araf i gadarnhau y byddai benthyciadau ar gael ym mis Hydref i ffermwyr fydd ddim yn gallu fforddio prynu porthiant a bwyd yn dilyn cynhaeaf trychinebus - ac am beidio gwneud mwy.

"Ond yng Nghymru, gyda Llafur mewn grym, nid yw ymdrechion Llywodraeth Cymru yn agos at yr hyn a gynigir yn yr Alban."

Dywedodd Mr Roberts ei fod yn pryderu y byddai rhyddhau benthyciadau a thaliadau cynnar mewn rhannau eraill o'r DU, Iwerddon a rhannau eraill o'r UE yn arwain at borthiant a gwellt yn diflannu o farchnad y DU o fis Hydref ac o bosib hyd yn oed yn cael eu stocio gan ffermwyr mewn gwledydd eraill, tra bod ffermwyr Cymru yn aros am daliadau ac felly'n methu â chystadlu.

"O ystyried y cynhaeaf trychinebus yma yng Nghymru ac ar draws yr UE, mae perygl gwirioneddol erbyn bydd taliadau neu fenthyciadau Cymreig ar gael bydd taliadau cynnar neu fenthyciadau gwledydd eraill yn arwain at borthiant hanfodol yn diflannu o'r farchnad a’r prisiau’n cynyddu.

"Mae'r oedi wrth drefnu'r cyfarfod tywydd brys a ofynnwyd gennym ddechrau mis Gorffennaf, a'r penderfyniad hwn, yn achosi pryderon gwirioneddol nad yw Llywodraeth Cymru yn sylweddoli pa mor ddifrifol yw goblygiadau'r tywydd - er gwaethaf ein gohebiaeth a'n diweddariadau rheolaidd ers mis Mai."

Dywedodd Mr Roberts, er bod yr Alban wedi cyhoeddi benthyciadau cynnar i ffermwyr, bod yr UE wedi pasio mesurau argyfwng yn ymwneud â llu o reoliadau ac yn caniatáu i lywodraethau i weithredu’n gynnar.

"Mewn cyferbyniad, ymddengys bod ymateb Llywodraeth Cymru yn un tu hwnt o hamddenol.”

UAC yn chwilio am enwebiadau am wasanaeth neilltuol i’r diwydiant llaeth Cymreig

 

Unwaith yn rhagor, mae Undeb Amaethwyr Cymru eisiau cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad neilltuol i ddatblygiad y diwydiant llaeth ac sydd wedi dod yn rhan hanfodol o’r diwydiant yng Nghymru.

Er mwyn cydnabod y fath wasanaethau, mae’r Undeb yn chwilio am enwebiadau ar gyfer y wobr, Gwasanaeth Neilltuol i Ddiwydiant Llaeth Cymreig UAC/HSBC.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi, a’r wobr yn cael ei chyflwyno yn Sioe Laeth Cymru sydd i’w chynnal yng Nghaerfyrddin ar ddydd Mawrth Hydref 30.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaerfyrddin David Waters: “Mae yna nifer o unigolion teilwng iawn yng Nghymru sy’n haeddu’r wobr yma, ac wrth edrych nôl, rydym wedi cael enwebiadau ac enillwyr teilwng iawn.  Felly os ydych yn nabod person yng Nghymru sydd wedi cyfrannu’n helaeth tuag at ddatblygiad y diwydiant llaeth ac sydd wedi dod yn rhan hanfodol ohono yng Nghymru, yna ewch ati i’w henwebu nhw ar gyfer y wobr urddasol hon.”

UAC Ynys Môn yn edrych ymlaen at ddau ddiwrnod prysur o sioe sirol

Mae cangen Ynys Môn o Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych ymlaen at sioe sir brysur (Mawrth 14 - Mercher 15 Awst), sydd i’w chynnal ar Gae Sioe Mona ac yn estyn croeso cynnes i bawb.
 Dywedodd Swyddog Gweithredol cangen UAC Ynys Môn Alaw Jones: "Rydym yn edrych ymlaen at sioe sir brysur le byddwn yn trafod #AmaethAmByth a #CyllidFfermioTeg gyda'n haelodau a'n gwleidyddion etholedig ac yn estyn croeso cynnes i bawb. Gobeithio bydd nifer ohonoch yn medru ymuno â ni am sioe ardderchog arall.”