Mae hyn yn gwd thing!

Baler cord, cap stabal, rigger boots a mwstash - delwedd weddol gyffredin o ffermwyr yng Nghymru dros y degawdau, ond diolch i un dyn o Gwmfelin Mynach, mae’r ddelwedd bellach yn un eithaf eiconig. Dyma ddelwedd y Welsh Whisperer, sy’n prysur wneud enw iddo’i hun fel perfformiwr gwerin, cyflwynydd radio a phersonoliaeth deledu boblogaidd.

Croeso gofalus gan UAC i gydnabyddiaeth Gove o ddatganoli a chanolbwyntio ar gadwyni cyflenwi

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu ymrwymiadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol Michael Gove i ganolbwyntio ar bolisïau'r gadwyn gyflenwi a'i gydnabyddiaeth o'r angen am gydbwysedd priodol rhwng datganoli a fframweithiau cyffredin y DU ar ôl Brexit.

Wrth siarad yng nghynhadledd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ym Mirmingham, rhoddodd Michael Gove nifer o ymrwymiadau i ffermwyr yn Lloegr, a hefyd yn cydnabod yr angen i Brexit gael ei ystyried o ran cadwyni cyflenwi cyfan sy'n gweithredu ledled y DU.

Bore pia hi i godi arian!

Roedd arogleuon coginio cartref yn cyfarch y rhai a ymunodd â brecwastau Ceredigion, a drefnwyd fel rhan o ymgyrch brecwast Ffermdy UAC yr wythnos ddiwethaf.

Cynhaliwyd y digwyddiadau yng Nghlwb Rygbi Aberaeron a Chlwb Rygbi Tregaron, ac roedd nifer dda o bobl yn bresennol.  Yn ogystal â chodi proffil cynnyrch Cymru ac yn dangos rôl bwysig y sector bwyd a diod yn ein bywydau bob dydd, codwyd £520 hefyd ar gyfer elusennau UAC sef Cymdeithas Alzheimers Cymru a'r Farming Community Network (FCN).

Ffermwyr Meirionnydd yn mwynhau brecwastau blasus

Cafodd pobl Meirionnydd wledd o frecwastau ar ddiwedd mis Ionawr, gyda thîm lleol Undeb Amaethwyr Cymru yn cynnal pedwar brecwast ffermdy.

Cynhaliwyd y digwyddiadau fel rhan o ymgyrch Wythnos Brecwast Ffermdy UAC, gan godi proffil cynnyrch Cymru a chael gwleidyddion, rhanddeiliaid allweddol a'r cyhoedd yn gyffredinol i ddeall rôl bwysig y sector bwyd a diod yn ein bywydau bob dydd.

Ffermwyr Sir Ddinbych yn cynnal brecwast ffermdy llwyddiannus

Er mwyn hyrwyddo manteision iechyd a hefyd yr amrywiaeth o gynnyrch brecwast o safon uchel sydd ar gael yng Nghymru, cynhaliodd cangen Sir Ddinbych o Undeb Amaethwyr Cymru frecwast ffermdy ar ddydd Sadwrn, Ionawr 27 yn Neuadd Bentref Llansannan.

Cododd y brecwast, a drefnwyd fel rhan o ymgyrch wythnos brecwast Ffermdy UAC, £800 ar gyfer achosion elusennol yr Undeb - Cymdeithas Alzheimer Cymru a'r Farming Community Network (FCN).

Brecwastau UAC Caernarfon yn codi dros £6,300 i elusen

Wythnos diwethaf, cafwyd amser gwych gan bawb a fynychodd y 7 brecwast a drefnwyd ar draws y sir gan Gangen Sir Gaernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru.

Mae dros £6,300 eisoes wedi'i roi gan bobl leol gydag arian yn dal i lifo mewn. Mynychodd dros 500 o bobl y brecwastau ledled y sir, a oedd yn gefnogaeth wych gan yr holl gymunedau lleol.

"Gwnaeth gwragedd y ffermwyr waith ardderchog gyda chymorth gan ffrindiau a theulu ym mhob lleoliad. Rhaid i ni ddiolch i Anita Thomas, Gwenan Jones, Carol Jones, Helen Jones, Anne Franz, Eleri Roberts, Anwen Jones a Sara Evans a'u timau gweithgar am yr ymdrech wych i godi cymaint o arian i elusennau gwerth chweil, sef Elusennau’r Llywydd - Cymdeithas Alzheimer Cymru a FCN (Farming Community Network) a Chronfa Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019," meddai Tudur Parry, Cadeirydd cangen Caernarfon o UAC.

“Ni fyddai'r wythnos lwyddiannus wedi bod yn bosibl heb y rhoddion amhrisiadwy gan y busnesau lleol," ychwanegodd.

Rhoddwyd yr holl fwyd gan y canlynol:

Hirdre Isaf’s Happy Eggs o Dudweiliog; Cigydd O.G Owen a’i Fab Cyf, Caernarfon; Oinc Oink, Ffridd, Llithfaen; Cigydd Dafydd Wyn Jones a’i Fab, Caernarfon; Cigydd A Ll & H Williams, Edern; Hufenfa De Arfon, Rhydygwystl; K E Taylor, Daughter & Son, Cricieth; Welsh Lady, Y Ffôr; Tesco, Bangor; A.F Blakemore, Bangor; Llaethdy Ll?n, Madryn Isaf, Boduan; Co-op, Llanfairfechan; Ieuan Edwards o Gonwy; John Williams o Llanfairfechan; Becws Islyn, Aberdaron; Spar, Pwllheli; Cig Llechwedd, Llangefni; Tesco, Caernarfon;  Elystan Metcalfe Llanrwst; Popty Tandderwen, Betws-y-Coed; Belmont, Llanddoged; Llaeth y Llan Llanefydd; T & M Roberts, Ochr Cefn Isa, Ysbyty Ifan; Ffrwythau D J, Porthmadog;  Garej a Siop Morfa Nefyn; Wynnstay, Pengroeslon; R.H. Evans (Hywel Jones) Pwllheli; Becws Glanrhyd, Llanaelhaearn; Wyau Plas Newydd, Llwyndyrus; Cig Ceirion, Sarn; Becws Gors Bach, Morris Bros, Cwm-y- Glo; Morrisons Caernarfon; Wyau Desach, Clynnog fawr; Caffi Idris, Cricieth; Cae Melwr, Llanrwst; A.L & R.O Jones, Cigydd, Llanrwst; D.I. Hughes, Pencraig Uchaf, Betws y Coed; Hafan Hire; Cigoedd y Llain, Pwllheli; Tesco, Porthmadog; Aldi, Pwllheli; Tonnau, Pwllheli; Cigoedd y Maes, Pwllheli; Ian Jones, Wyau Penygroes; Siop y Pentref, Llanfairfechan; Nerys; Emyr Evans a’i Gwmni; Popdy Lleuar, Penygroes; Spar, Aberdaron; Spar, Nefyn; Llefrith Tir Glyn, Aberdaron; T? Newydd, Aberdaron; Eleri Stores, Aberdaron; Caban Bysgod/Sblash, Aberdaron; Llên Ll?n, Pwllheli.