Ffermwr o Sir Benfro yn rhoi cig dafad nôl ar fwydlenni’r cogyddion enwog

Mae Robert Vaughan, ffermwr biff a defaid o Gwm Gwaun, wedi rhoi cig dafad ar frig bwydlen y cogydd teledu enwog Jamie Oliver, sy’n serennu yn y gyfres teledu ‘Jamie and Jimmy’s Friday Night Feast’ sydd ar Sianel 4 ar hyn o bryd.

Mae Robert, ffermwr mynydd o Sir Benfro ac aelod o Undeb Amaethwyr Cymru yn awyddus i bwysleisio pa mor amlbwrpas a blasus yw cig dafad ac yn falch o gael y cyfle i ddangos y fferm i Jamie a Jimmy.

Ymunwch gyda ni am frecwast ym mis Ionawr!

Beth well na phryd da o fwyd i ddod a phobl ynghyd i rannu syniadau, ac oherwydd bod Undeb Amaethwyr Cymru am barhau i sicrhau bod llais amaethyddiaeth Cymru’n cael ei glywed ar bob lefel, mae ffermydd ar draws Cymru yn eich gwahodd chi i’w ceginau ar ddiwedd wythnos brecwast (Ionawr 22-28).

#AmaethAmByth yn dwyn sylw gwobrau Public Affairs UK

Mae ymgyrch #AmaethAmByth Undeb Amaethwyr Cymru, sy’n arddangos y rôl allweddol y mae ffermio yn ei chwarae yn yr economi wledig ehangach ac yn dangos pwysigrwydd cymdeithasol a diwylliannol ehangach ffermio yng Nghymru gyda'r nod ehangach o argyhoeddi Llywodraeth Cymru ei fod yn hanfodol i amddiffyn ffermio Cymru rhag effaith negyddol posibl Brexit, wedi cael ei chydnabod yng Ngwobrau Public Affairs UK fel yr ymgyrch orau yng Nghymru.

Myfyrwyr Daearyddiaeth Prifysgol Bangor yn mwynhau ymweld â fferm ym Meirionnydd

Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr Daearyddiaeth o Brifysgol Bangor y cyfle i fwynhau ymweld â fferm ym Meirionnydd ac i drafod #AmaethAmByth gydag Undeb Amaethwyr Cymru.

Ffermwyr b?ff a defaid o Feirionnydd yw arweinydd newydd Pwyllgor Llais yr Ifanc dros Ffermio UAC

Mae Geraint Davies, ffermwr bîff a defaid ac aelod o gangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru wedi cael ei benodi fel Cadeirydd Pwyllgor Llais Yr Ifanc Dros Ffermio UAC.

Ynghyd â'i wraig Rachael, mae'n ffermio yn Fedw Arian Uchaf, Rhyduchaf, Y Bala.  Yn fferm organig ers 2005, mae wedi bod yng nghynllun Glastir Sylfaenol ers 2013 ac yn y cynllun Uwch ers 2014.

UAC yn dweud bod cau banciau ar draws Cymru yn drychinebus i fusnesau gwledig

Mae’r newyddion bod 20 o fanciau ar draws Cymru i gau ym 2018 wedi ysgogi beirniadaeth gan Undeb Amaethwyr Cymru, sy'n disgrifio'r cau fel newyddion trychinebus i fusnesau gwledig.