BYDDWCH YN CWL A DEWCH I YMWELD Â STONDIN UAC YN EISTEDDFOD YR URDD

BYDD hi'n cwl i gael eich gweld ar stondin Undeb Amaethwyr Cymru yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Abertawe a'r Fro sydd i'w chynnal wythnos nesaf (Mai 30-Mehefin 4).

Bydd yr Undeb yn hyrwyddo gwaith "Cool Milk", sy'n cyflenwi llaeth i ysgolion.  Mae "Cool Milk" wedi ymuno gyda Mudiad Meithrin yn ddiweddar i lansio cynllun llaeth am ddim er mwyn cael mwy o blant i yfed llaeth mewn cylchoedd meithrin a meithrinfeydd ar draws Cymru.

Ar y stondin, bydd staff UAC yn rhoi cartonau o laeth am ddim i blant ifanc yn ogystal â chopïau o lyfryn dwyieithog Hybu Cig Cymru sef "Cwl i Goginio" sy'n cynnwys ryseitiau cytbwys a luniwyd yn ofalus er mwyn sicrhau bod plant ar draws Cymru'n awyddus i ddeisio, yn cyffroi wrth ffrio ac yn frwd i rostio!

Dywedodd Gareth Vaughan, Llywydd UAC: "Mae hawl gan bob plentyn o dan bum mlwydd oed i gael 189ml o laeth (traean o beint) yn yr ysgol, cylch chwarae neu feithrinfa, ond mae gweithredu cynllun "Cool Milk" a'r Mudiad Meithrin wedi costio'n ddrud i'r ysgolion a'r meithrinfeydd yn y gorffennol.

"Mae'n rhaid i staff yr ysgolion gwblhau'r gwaith papur, tra bod rhaid i staff meithrinfeydd ariannu llaeth y plant wrth aros am yr ad-daliad.

"Mae'r cynllun yn diddymu'r rhwymedigaeth yma gan fod y llaeth yn cael ei ariannu'n llawn ar ran y cylch meithrin a'r feithrinfa sy'n golygu ni fydd rhaid iddynt gwblhau gwaith papur na hawlio arian yn ôl.

"Mae'n bwysig i blant yfed llaeth.  Mae cynghorwyr iechyd yn dweud wrth bawb am fwyta neu yfed tair rhan o gynnyrch llaeth y dydd.

"Mae llaeth yn yr ysgol yn ddelfrydol oherwydd mae'n cynnig cyfle gwych i gryfhau esgyrn a dannedd iach, yn ogystal â darparu hwb hanfodol sy'n cynnwys maetholion sy'n hanfodol i'w datblygiad."

Hefyd, dywedodd Mr Vaughan bod yr Undeb yn falch o amlygu gwaith Hybu Cig Cymru wrth hyrwyddo'r llyfr ryseitiau.  "Mae ymchwil a wnaed gan HCC yn dangos bod nifer o athrawon yn wynebu penderfyniadau anodd wrth ddysgu am fwyd.

"Mae athrawon wedi dweud droeon, nid oes digon o amser o fewn y cwricwlwm neu ddiffyg adnoddau i wneud cyfiawnder a'r pwnc.  Dyma'r rheswm pam mae HCC wedi cynhyrchu'r "Cwl i Goginio" gwreiddiol a ddilynwyd gan "Cwl i Goginio 2" a gyhoeddwyd yn ystod haf llynedd.

"Mae'r ddau lyfryn, sy'n hynod o liwgar ac o ansawdd uchel, yn apelio i blant ysgolion cynradd.  Mae'n fodd o ledaenu'r neges bod diet cytbwys yn rhan o fyw bywyd iach.

"Mae'n darparu awgrymiadau hanfodol i ddewis, paratoi a chyflwyno bwyd a fydd yn rhoi ein plant ar y llwybr cywir am weddill bywyd.

"Mae HCC yn annog pawb i goginio prydau cytbwys sy'n cynnwys cynhwysion lleol, sydd wrth gwrs yn golygu Cig Oen ag Eidion Cymru, ac mae hyn yn hynod o wir ar gyfer ein pobl ifanc"

Mae "Cwl i Goginio" yn cynnwys ryseitiau ar gyfer Cwpanau Bara Crensiog; Pasta gyda Chig a Thomatos; Myffins Sticlyd ac Oren; Cig Oen Cymru wedi'i dro-ffrio; Patis Cig Oen Cymru; Pei Briwgig eidion a sglodion; Ffrwythau tro-ffrio; Koftas sbeislyd Cig Oen Cymru; Porc Melys a Sur; Brechdanau blasus a salad blasus a hwylus.

BWRSARIAETH UAC O £1,000 I FYFYRWYR YN CAEL EI LANSIO YN EISTEDDFOD YR URDD

GWAHODDIR myfyrwyr llawn amser newydd i ysgrifennu traethawd 1,000 o eiriau ar un o dri pwnc ar ddyfodol ffermio yng Nghymru fel y gosodwyd gan Undeb Amaethwyr Cymru sy'n lansio'i bwrsariaeth flynyddol gwerth £1,000 ar ei stondin yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yfori (dydd Mercher 2 Mehefin).

Y pynciau yw:

- Pa sialensau bydd newid yn yr hinsawdd yn ei greu ar gyfer ffermio a chynhyrchiant bwyd yng Nghymru dros y 50 mlynedd nesaf?

- Beth ddylai'r diwydiant ffermio yng Nghymru a'r Llywodraeth wneud i ddenu rhagor o bobl ifanc mewn i amaethyddiaeth?

- Sut byddech yn mynd ati i roi gwedd newidiad i'r diwydiant ffermio yng Nghymru er mwyn denu rhagor o gefnogaeth a theyrngarwch oddi wrth y cyhoedd?

Penderfynodd beirniaid llynedd roi bwrsariaeth o £700 i Iestyn Russell, myfyriwr 19 mlwydd oed yng Ngholeg Prifysgol Harper Adams

Derbyniodd Iestyn, sy'n dod o Gwmann ger Llanbedr Pont Steffan, Sir Gaerfyrddin ei wobr oddi wrth Gareth Vaughan, Llywydd UAC ar stondin yr Undeb yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru mis Rhagfyr llynedd.

Mar Iestyn yn aelod brwdfrydig o CFFI Cwmann, ac enillodd deitl stocmon iau gorau CFFI Cymru llynedd. Mae wedi gweithio ar fferm laeth a defaid y teulu yng Nghwmann ac ar ffermydd eidion a defaid cyfagos cyn penderfynu mynd i'r brifysgol i astudio am radd mewn menter cefn gwlad a rheolaeth tir. "Mae'r freuddwyd o gael ffermio'r un mor fyw" dywedodd.

Yn ail i Iestyn oedd David Evans, 19 mlwydd oed o Groeswen Farm House, Groeswen, Caerdydd sy'n astudio am radd BSc mewn amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Derbyniodd £200.

Yn drydydd oedd Manod Williams, 22 mlwydd oed, o Dregerddan, Bow Street ger Aberystwyth sydd hefyd yn astudio am radd BSc yn amaethyddiaeth gyda gwyddor anifeiliaid yn Aberystwyth. Derbyniodd £100.

Mae manylion llawn ar sut i ymgeisio am y fwrsariaeth yn gynwysedig mewn taflen sydd ar gael o brif swyddfa UAC yn Aberystwyth neu oddi wrth unrhyw un o swyddfeydd sirol yr Undeb yn ogystal â stondin UAC yn yr Eisteddfod.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Hydref 1, 2010.

UAC YN HYRWYDDO BWYD A FFERMIO CYMREIG YN EISTEDDFOD YR URDD

BYDD Undeb Amaethwyr Cymru yn hyrwyddo bwyd a ffermio Cymreig yn ystod ei phresenoldeb fwyaf erioed yn Eisteddfod yr Urdd flynyddol wythnos nesaf (Mai 31-Mehefin 5).

Mae'r lleoliad eleni - eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron, ger Aberaeron - yn enghraifft brin o ystâd fferm hunangynhaliol o'r 18fed ganrif sydd wedi goroesi heb orfod cael ei newid llawer.

Mewn partneriaeth unigryw gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, lleolir uned arddangos symudol newydd UAC ar y fferm sydd â ystod drawiadol o dai allan atmosfferig. Mae'n fferm organig weithiol ac yn cadw gwartheg duon Cymreig, defaid Llanwenog a moch Cymreig prin.

Mae gan yr Undeb ei stondin arferol ar y maes, lle mae croeso i aelodau ddod i fwynhau cwpanaid o de a phicen fach tra bydd Ffedarasiwn y CFFI, Ceredigion yn cynnal digwyddiadau amrywiol yno trwy gydol yr wythnos, gan gynnwys, gosod sialens i Tim John, Cadeirydd CFFI Cymru ar y diwrnod cyntaf i wacsio'i goesau er mwyn codi arian i Sefydliad Aren Cymru.

Mae cwis llwybr fferm wedi cael ei ffurfio, a gellid dod o hyd i'r atebion i gyd yn ystod taith hamddenol o stondin UAC ar y Maes i'r uned symudol sy'n mwynd trwy'r gerddi a'r mur o'i cwmpas a buarth y fferm.

Basged o fwyd yn llawn bwyd a diod lleol fydd y brif wobr ar gyfer y cwis gyda thaleb ar gyfer cig Llanerchaeron a chadw mi gei yn wobrau ar gyfer enillwyr lwcus y gystadleuaeth i ddyfalu pwysau'r tri mochyn bach.

Bydd y gweithgareddau yn ymyl yr uned symudol yn dechrau dydd Mawrth gydag arddangosfa ar gadw gwenyn gan gyn Swyddog Gweithredol Sir Ceredigion, Lewis Griffith a fydd yn ail ddangos yr arddangosfa dydd Iau.

Hefyd dydd Mawrth bydd cymeriadau poblogaidd o'r rhaglen a leolir yng Ngheredigion ar gyfer plant, Pentre Bach ar gael i lofnodi a thynnu lluniau ar stondin UAC rhwng 11.00yb a hanner dydd.

Bydd arddangosfeydd diddorol o waith dau grefftwr gwledig o Dalgarreg yn cael eu cynnal ar yr uned symudol dydd Mercher a dydd Iau. Mi fydd Grug Jones yn dangos ei gerfluniau helyg celfydd, a Lloyd Jones, ffermwr sydd wedi ymddeol, yn dangos ei gasgliad diddorol o glymau rhaff.

Yn y cyfamser, bydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ac anerchiadau ar y fferm trwy gydol yr wythnos a fydd yn cynnwys arddangosfeydd cyson o gneifio'r defaid Llanwenog lleol, yn ogystal â arddangosfa o wahanol fridiau dofednod.

Bydd cyfle hefyd i weld arddangosfa unigryw Geler Jones o beiriannau fferm, certi a gweithiau llaw gwledig mewn sied bwrpasol ger uned symudol UAC.

"Mae UAC yn hynod o falch i gael gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i roi cyfle i ymwelwyr yr eisteddfod weld sut mae fferm weithiol yn cynhyrchu digon o fwyd i wneud ystâd yn hunangynhaliol," meddai Owen Jenkins, Swyddog Gweithredol Sir Ceredigion.

"Rydym yn mawr obeithio y bydd yr ymwelwyr ifanc a'r rhai hín yn cofio beth mae'r ddau sefydliad yn ceisio'i wneud - addysgu'r cyhoedd i werthfawrogi mae diogelwch bwyd yw un o brif faterion byd-eang heddiw.