Mae ffermwyr o Geredigion, Caerfyrddin a Sir Benfro wedi tynnu sylw at bryderon y diwydiant, gan gynnwys dyfodol polisi amaethyddol Cymru a TB, mewn cyfarfod gyda Cefin Campbell, yr Aelod Senedd ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan Meirion Rees, aelod o Undeb Amaethwyr Cymru, sy’n ffermio mewn partneriaeth â’i rieni, Val a Meurig Rees ym Mhenrallt Meredith, Ffynnon-groes, Eglwyswrw.
Dechreuwyd y busnes ffermio teuluol gan rieni Meirion, Val a Meurig, dros 40 mlynedd yn ôl. Yn fferm laeth yn wreiddiol, ac wedi i’r teulu orffen godro tua 20 mlynedd yn ôl, bu’r teulu’n cadw gwartheg sugno a defaid.
Aeth Meirion i'r Brifysgol yng Nghaerdydd i astudio peirianneg sifil a threuliodd 10 mlynedd yn gweithio ar wahanol brosiectau peirianneg ym mhob rhan o'r wlad. Fodd bynnag, roedd bob amser yn cadw diddordeb yn y fferm ac yn helpu pan allai. Wyth mlynedd yn ôl symudodd yn ôl i'r fferm yn llawn amser.
Nid yw'r teulu bellach yn cadw gwartheg eu hunain oherwydd y broblem TB yn yr ardal. Maent yn gofalu am 650 erw ynghyd â hawliau tir comin ac yn canolbwyntio ar ffermio defaid, gan gadw 2,000 o ddefaid magu Mynydd Cymreig.
Wrth siarad â Cefin Campbell am ddyfodol polisïau amaethyddol, pwysleisiodd Meirion Rees, er bod darparu nwyddau cyhoeddus yn rhan o’r ateb o ran cynllun cymorth amaethyddol yng Nghymru yn y dyfodol, rhaid darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i ffermydd teuluol, cefnogaeth ar gyfer cymunedau gwledig a swyddi Cymru a hwyluso amaethyddiaeth gynaliadwy hefyd.