Cawsom ein sicrhau dro ar ôl tro gan y prif ymgyrchwyr dros Brexit, a chan nifer o weinidogion Llywodraeth y DU, na fyddai’r gyllideb ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig yng Nghymru’n cael ei chwtogi ar ôl inni adael yr UE.
Mae defnydd Trysorlys y DU o arian nas gwariwyd o gyllideb Polisi Amaethyddol Cyffredin 2014-2020 i bennu cyfanswm y gyllideb ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig yng Nghymru yn 2021-2022, a gyhoeddwyd ar 25ain Tachwedd, yn golygu y bydd Cymru’n derbyn £95 miliwn (28%) yn llai nag y byddem wedi’i ddisgwyl petai’r addewid hwn wedi’i anrhydeddu.
Rhowch eich cod post isod i anfon llythyr at eich Aelod Seneddol a’ch cynrychiolwyr lleol yn eu hannog i lobïo Llywodraeth y DU, i sicrhau bod y gyllideb ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig yng Nghymru’n cael ei hadfer i’w lefelau cyn gadael yr UE mewn termau real, fel bod yr addewidion a wnaed dro ar ôl tro i etholwyr yng Nghymru a’r DU yn cael eu hanrhydeddu’n llawn.
Nodwch eich côd post yn llawn gyda bwlch EG: SY23 3AS
Yn dilyn gwasgariad y Coronafeirws (COVID-19), rydym wedi penderfynu amddiffyn aelodau, cwsmeriaid a chyd-aelodau staff trwy gau pob swyddfa FUW.
Bydd pob aelod o staff yn gweithio oddi ar ein safleoedd am y dyfodol rhagweladwy, golygir y bydd ein timau yn parhau i gynnig yr holl wasanaethau dros ffon/e-bost/skype neu ffyrdd eraill o gyfathrebu o bell.
Dylai aelodau a chwsmeriaid barhau i gysylltu gyda ni yn yr un modd ag arfer, gellir cysylltu â’r staff trwy ddefnyddio’r rhifau ffôn arferol.
Byddwn yn sicrhau bod safon ein gwasanaethau yn parhau. Caiff apwyntiadau SAF/IACS barhau fel yr arfer ond fe cant eu gwneud dros y ffôn.
Gweler manylion cyswllt eich swyddfa leol yma: https://fuw.org.uk/cy/cysylltwch
Linciau pwysig ynglŷn â'r Coronafeirws:
Mae Hwb TB wedi paratoi rhestr o gwestiynnau a ofynnir yn aml parthed sut caiff prosesau TB eu heffeihtio gan y feirws: https://tbhub.co.uk/statutory-tb-testing-of-cattle-in-gb-during-the-covid-19-pandemic/
Tractor Coch (Red Tractor) dwieddariad yma: https://assurance.redtractor.org.uk/contentfiles/Farmers-7085.pdf?_=637206600290507095
Cymdeithas Arwerthwyr Da-byw - 25/03/2020: https://www.laa.co.uk/news/3989/coronavirus-covid-19-guidance-to-members-and-farmers/
Busnes Cymru (sy’n cynnwys gwybdooaeth am gefnogaeth i fusnesau oherwydd y Coronafeirws): https://businesswales.gov.wales/cy/cyngor-coronafeirws