
DIOGELWCH FFERM
Mae sicrhau diogelwch ffermwyr Cymru a'u teuluoedd yn flaenoriaeth i'r FUW. Gyda defnydd beunyddiol o beiriannau ac offer mae ffermio yn arwain at risgiau, mae FUW yn gwybod bod gan ffermio heriau iechyd a diogelwch unigryw ac rydym yn gweithio i godi ymwybyddiaeth a lleihau'r risg o niwed i weithwyr yn ein diwydiant. Yn aml, mae difrifoldeb y risgiau a pheryglon ffermio yn cael eu tanamcangyfrif ac ni chânt eu cydnabod. Er bod sectorau eraill sydd â risgiau tebyg wedi gwneud gwelliannau enfawr, mae gan ffermio llawer iawn o waith i’w wneud.
Mae yna sawl maes sydd â risg sy'n werth treulio amser yn eu hystyried:
Trafnidiaeth
Dylid ond defnyddio tractorau a beiciau cwad os yw’r person wedi derbyn hyfforddiant ac yn gymwys i'w defnyddio'n ddiogel. Cerbydau fferm sy’n symud yw achos nifer fawr o farwolaethau ac anafiadau difrifol sy'n gysylltiedig â’r fferm. Wrth weithio gyda thrafnidiaeth dylid eu stopio’n ddiogel.
Rhoi’r brêc llaw ymlaen
Rheolaethau mewn niwtral
Injan i ffwrdd
Allweddi allan
Gweithio gyda pheiriannau
Yn ogystal â dilyn y drefn o stopio’n ddiogel, mae yna lawer o ffyrdd i aros yn ddiogel o gwmpas peiriannau.
Defnyddiwch beiriannau rydych chi wedi'u hyfforddi i wneud hynny
Gweithredwch reolaethau o'r safle gyrru bob amser
Sicrhewch eich bod yn deall y rheolyddion cyn i chi weithredu'r tractor
Cyn rhoi cynnig ar unrhyw waith cynnal a chadw ar beiriant - p'un ai yn y gweithdy neu yn y cae - gwnewch yn siŵr bod nhw’n ddiogel i weithio arnynt gan ddilyn y broses o stopio’n ddiogel.
Gwnewch yn siŵr bod y gardiau mewn lle bob amser ac mewn cyflwr da
PEIDIWCH â defnyddio peiriannau sy'n ddiffygiol neu sydd â gardiau ar goll
Sicrhewch fod y siafft yrru PTO wedi'i diogelu'n llawn gan gardiau sydd wedi'u cynllunio'n iawn a'i diogelu gan gadwyn i atal y giard rhag cylchdroi.
Sicrhewch fod offer yn cael ei gynnal a'i gadw'n rheolaidd a'i fod yn addas at y diben.

Gweithio ar uchder
Gall marwolaethau ac anafiadau sy'n newid bywyd ddigwydd o fewn eiliad o ddiffyg canolbwyntio.
I leihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â gweithio ar uchder:
Ceisiwch osgoi neu leihau gweithio ar uchder lle y gallwch
Defnyddiwch offer gwaith neu fesurau eraill i atal cwympiadau lle na allwch osgoi gweithio ar uchder
Peidiwch byth â gweithio ar doeau bregus na cherdded drostynt oni bai bod platfformau, gorchuddion neu amddiffyniad tebyg yn cael eu darparu i gynnal eich pwysau yn ddigonol
Ystyriwch gyflogi contractwr toi arbenigol
Sicrhewch fod ymylon agored o loriau neu blatfformau wedi'u diogelu â rheiliau gwarchod addas
Trin Da Byw
Gall anafiadau difrifol a marwolaeth wrth drin da byw ddigwydd trwy wasgiad, cicio ac ergyd
Lleihewch y risg o anaf trwy:
Ddefnyddio cyfleusterau trin pwrpasol sydd mewn cyflwr da
Ddefnyddio ras a craets (crush) sy'n addas ar gyfer yr anifeiliaid sy'n cael eu trin
Sicrhewch fod gweithwyr wedi'u hyfforddi'n dda ac yn gymwys
Ystyriwch bolisi difa trylwyr yn ymwneud ag anifeiliaid anwadal
Osgoi gweithio ar eich pen eich hun gyda gwartheg
Peidiwch byth â diystyru greddfau amddiffynnol buwch sydd newydd lloia

Gallwch weld gwybodaeth ar reoli eich diogelwch fferm, arweinlyfr diogelwch a darluniau gwybodaeth drwy’r adnoddau isod:
Keeping children and the public safe on farms