Tîm Polisi
Ydych chi’n aelod sy’n chwilio am gyngor ac arweiniad ar fater polisi amaethyddol? Cysylltwch gyda’ch swyddfa leol, cymryd rhan yn y pwyllgorau polisi, neu edrychwch ar y gwefan am mwy o wybodaeth.

Pennaeth Polisi - Dr Nick Fenwick
Magwyd Nick ar ffermydd mynydd yn ardaloedd Talerddig a Machynlleth o Sir Drefaldwyn. Astudiodd cemeg a chemeg cyfrifiannol ym Mhrifysgol Bangor cyn dychwelyd i Sir Drefaldwyn ym 1999 i gwblhau PhD mewn Cemeg Ystadegol Damcaniaethol a Chyfrifiannol. Cyn ymuno gyda thîm polisi UAC yn 2004, roedd ganddo fusnes ymgynghori a rhaglennu cyfrifiadurol yn arbenigo mewn TG ar gyfer busnesau amaethyddol a gwledig ac yn swyddog prosiect ar gyfer y Comisiwn Coedwigaeth/prosiect hanes ar lafar a ariennir gan Treftadaeth y Loteri ‘Story of the Forest ‘. Mae’n briod ag Elizabeth Siân, arlunydd, cynllunydd graffeg a chynllunydd theatr. Mae gan Elizabeth a Nick dwy o ferched, Myfanwy a Morfudd. Yn ei amser hamdden mae Nick yn mwynhau chwarae a gwrando ar gerddoriaeth ac wedi ysgrifennu a recordio gyda nifer o fandiau gan gynnwys Tystion, MC Mabon, Bazwca and Huw Haul.
Dyma ddetholiad o’i gyhoeddiadau ac erthyglau:
- Testing times for tackling TB (Institute of Welsh Affairs, February 2017)
- Don't twist reality to create the wild Wales of English romantic myth (Guardian, 2013)
- Modelled impacts of badger culling on cattle TB in a real area with geographic boundaries (Veterinary Record, 2011)
- Welsh farmers will be relieved that the badger cull is going ahead (Guardian, 2010)
- A Portrait of Machynlleth and its Surroundings (Coch-y-Bonddu Books, 2009)
- Computer simulation of a Langmuir trough experiment carried out on a nanoparticulate array (Journal of Chemical Physics, 2001)
- The rapid and accurate determination of germ tube emergence site by Blumeriagraminisconidia (Physiological and Molecular Plant Pathology, 2000)

Uwch Swyddog Polisi - Dr Hazel Wright
Mae gwaith Hazel yn cynnwys y materion hynny sy'n ymwneud ag iechyd a lles da byw ac mae hyn yn cynnwys TB, BVD, clafr defaid, cadw golwg ar glefydau, sgil-gynhyrchion anifeiliaid, stoc trig a phoeni da byw. Mae Hazel yn gyfrifol am Bwyllgor Iechyd a Lles Anifeiliaid yr undeb.
Mae gan Hazel radd Baglor yn y Gwyddorau mewn Sŵoleg o Brifysgol Glasgow a PhD mewn Parasitoleg o Brifysgol Aberystwyth. Cyn dechrau’r rôl Uwch Swyddog Polisi yn 2010, roedd Hazel yn gweithio fel Swyddog Polisi Nwyddau FUW
Mae gan Hazel ddiddordeb mawr mewn bioleg afiechydon ac mae wedi bod yn rhan o ystod o brosiectau ymchwil ôl-ddoethurol gan gynnwys rhyngweithiadau gwesteiwr-parasit a phroteomeg parasitiaid. Mae hi wedi cyhoeddi ei hymchwil mewn amrywiaeth o gyfnodolion academaidd.

Swyddog Polisi - Charlotte Priddy
Mae Charlotte yn ymroddedig i hyrwyddo buddiannau aelodau FUW a sicrhau bod Cymru wledig yn gynaliadwy ac yn gryf ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae rôl Charlotte fel Swyddog Polisi yn cynnwys materion newid yn yr hinsawdd, y defnydd o adnoddau naturiol, ynni adnewyddadwy ac arallgyfeirio.
Fel rhan o’i rôl, mae Charlotte yn gyfrifol am gynorthwyo Pwyllgor Llais yr Ifanc dros Ffermio a Phwyllgor Arallgyfeirio Fferm FUW. Mae hi hefyd yn cynrychioli'r Undeb ar nifer o bwyllgorau allanol fel y Pwyllgor Monitro Rhaglenni ar gyfer y Cynllun Datblygu Gwledig.
Cyn ymuno â FUW, bu Charlotte yn gweithio fel ymgynghorydd ymchwil i'r cwmni gwerthuso ystadegol, Wavehill, lle'r oedd yn rhan o ystod eang o brosiectau a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.

Swyddog Polisi - Bernard Griffiths
Mae Bernard yn cynorthwyo Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant FUW ac yn cynrychioli’r Undeb yn allanol ar sawl fforwm gan gynnwys y Fforwm Mynediad Cenedlaethol, y Gweithgor Tir Preifat a Fforwm Rheoli Tir Cymru. Mae'n ymroddedig i gysylltu â chyrff allanol perthnasol i sicrhau bod aelodau'n derbyn y canlyniad gorau ar gyfer materion ffermio.
Cyn gweithio i’r FUW, bu Bernard yn gweithio i ADAS ar ystod eang o brosiectau ymchwil ac ymgynghoriaeth yn y sectorau amaethyddol ac amgylcheddol.
Mae Bernard wedi cyhoeddi mewn cyfnodolion gwyddonol ar bynciau amrywiol gan gynnwys y dewis o ddiet cymharol i wartheg a defaid sy’n pori mewn dwy gymuned rhostir cyferbyniol ac Effaith polisi Ardal Amgylcheddol Sensitif.

Ymgynghorwr Polisi - Aled Jones
Fel rhan o'i rôl, mae Aled yn gweithio'n agos gyda phwyllgorau sefydlog perthnasol yr undeb ac yn ymateb i ymgynghoriadau amaethyddol ar ran aelodau’r undeb. Mae Aled hefyd yn treulio llawer o’i amser yn lobïo rhanddeiliaid a gwleidyddion i sicrhau bod budd a barn ein haelodau yn cael eu clywed ar y lefelau uchaf o’r broses o wneud penderfyniadau.
Cyn ymuno â’r tîm polisi yn y Brif Swyddfa, Aled oedd Swyddog Gweithredol Sirol, cangen FUW Brycheiniog a Maesyfed. Yn 2018 daeth yn Uwch Swyddog Rhanbarthol canghennau Brycheiniog a Maesyfed a Ceredigion.
Mae gan Aled Radd Baglor yn y Gwyddorau mewn Amaethyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth. Cyn ymuno â FUW, bu Aled yn gweithio fel Ymgynghorydd Busnes Fferm i Promar International. Yn ei amser hamdden, mae Aled yn gweithio ar y fferm deuluol, yn Ysgrifennydd ei Gymdeithas Cominwyr lleol ac yn drysorydd Sioe Amaethyddol Cilycwm.

Ymgynghorwr Polisi Arbennig - Rebecca Voyle
Ymunodd Rebecca â thîm polisi FUW yn rhan amser yn 2017 ac mae'n gyfrifol am faterion yn ymwneud â RPW Ar-lein a'i gynlluniau cysylltiedig gan gynnwys Cynllun y Taliad Sylfaenol.
Yn y rôl hon, mae Rebecca’n gweithio’n agos gyda’i chydweithwyr yn y canghennau sirol i’w helpu i ddatrys materion aelodau o ran cynlluniau RPW a’r system ar-lein. Mae Rebecca hefyd yn cynrychioli'r Undeb yng nghyfarfodydd Rhanddeiliaid RPW.
Yn ogystal â'r rôl hon, mae Rebecca yn dal i weithio fel Swyddog Gweithredol Sir FUW yn Sir Benfro, lle mae'n gyfrifol am gefnogi aelodau o ddydd i ddydd, ar ôl ymuno â'r Undeb yn y rôl hon yn 2001.
Mae gan Rebecca radd Baglor mewn Gwyddor Economaidd mewn Cyfrifeg, Cyllid a'r Gyfraith, o Brifysgol Aberystwyth. Cyn ymuno â FUW, bu Rebecca yn gweithio i gwmni ymgynghori yn darparu cyngor a chefnogaeth i ffermydd a oedd ar agor i'r cyhoedd.

Swyddog Cyfathrebu Polisi - Gareth Parry
Fel Swyddog Cyfathrebu Polisi, mae'n gyfrifol am gyfathrebu diweddariadau allweddol gan y tîm polisi trwy sawl platfform i'n haelodau gwerthfawr, rhanddeiliaid, sefydliadau cysylltiedig, ACau ac ASau. Mae Gareth yn helpu i ddatblygu cysylltiadau cadarn er mwyn sicrhau bod safbwynt yr Undeb ar faterion deddfwriaethol pwysig yn cael ei gyfathrebu'n glir. Mae rôl Gareth yn helpu i gyflwyno neges glir a chydlynol sy'n hyrwyddo buddiannau ein haelodau ac yn gosod y seiliau ar gyfer diwydiant amaethyddol sy'n edrych i'r dyfodol.
Mae gan Gareth gefndir amaethyddol teuluol a chyn ymuno â'r tîm polisi, cwblhaodd radd mewn Amaethyddiaeth ac Astudiaethau Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth gydag anrhydedd dosbarth cyntaf.