fas fa-person-walking-dashed-line-arrow-right

JOIN

CONTACT

BUDDION AELODAETH UAC

PAM YMUNO Â UAC?

Ydych chi eisoes yn aelod? Adnewyddwch nawr!

AELODAETH UNDEB

RHOI FFERMWYR YNG NGHYMRU YN GYNTAF

Rydym yn hyrwyddo'n annibynnol safbwyntiau ffermwyr yng Nghymru yn unig, heb ddylanwad allanol gan sefydliadau eraill.

CYNRYCHIOLAETH BROFFESIYNOL

O gynghorau Ileol i gyrff cenedlaethol, rydym yn helpu i ddiffinio a mireinio'r polisiau y mae'n rhaid i chi gydymffurfio a nhw ar eich fferm.

LOBIO A DYLANWADU

Hyrwyddwn fuddiannau ein haelodau wrth ymgyrchu'n weithredol, i sicrhau bod ffermio yn cael blaenoriaeth ar agenda gwleidyddol Cymru.

CAIFF EICH LLAIS EI GLYWED

Mae'n strwythur democrataidd yn golygu bod eich barn yn cyfrif ac yn greiddiol i'n polisïau. Os yw'n cyfri i chi, mae'n cyfri i ni.

GWASANAETHAU UNDEB

CWBLHAU FFURFLEN SAF YN FLYNYDDOL

Fel rhan o'ch aelodaeth, cynigwn gymorth yn Ileol i gwblhau eich ffurflen cais sengl - gan arbed unrhyw gamgymeriadau costus i chi. 

CEFNOGAETH BROFFESIYNOL

Medr ein harbenigwyr polisi hyfforddedig ateb eich cwestiynau a'ch cefnogi gydag apeliadau cosb, Gwaith Cyfalaf, Cynlluniau Glastir a grantiau eraill.

CYNGOR RHEOLEIDDIO

Gall ein tim polisi gynghori ar hawliau tramwyo, anghydfodau ffinio, tenantiaeth a rhenti, etifeddiaeth a phrofiant, Wayleaves a hawddfreintiau a llawer mwy!

GWASANAETHAU AR-LEIN

Medrwn reoli eich symudiadau BCMS, eich cyfrif RPW ar-lein a diweddaru unrhyw newidiadau Rheoli fy Nhir. HEFYD mynediad i'n gwefan aelodau yn unig sy'n llawn newyddion amaethyddol.

BUDDIANNAU YCHWANEGOL

PAPUR NEWYDD AMAETHYDDOL AM DDIM

fas fa-newspaper

Dosbarthir 'Y Tir' i ddrws eich tŷ yn fisol, yn Ilawn newyddion amaethyddol o bwys, diweddariadau polisi a gwahoddiadau i ddigwyddiadau unigryw FUW.

GOSTYNGIADAU A BARGEINION UNIGRYW

fas fa-cart-shopping

Cyfraddau arbennig ar ystod eang o wasanaethau proffesiynol a chynhyrchion, megis moduron, band eang, ynni, deunyddiau adeiladu, cyrsiau hyfforddiant a Ilawer mwy!

DIGWYDDIADAU LLEOL A SIARADWYR ARBENIGOL

fas fa-calendar-days

Trafod materion cyfredol gydag aelodau eraill a derbyn cyngor gan arbenigwyr diwydiant cymwys ar bynciau sy'n effeithio eich fferm

LLETYGARWCH AM DDIM MEWN SIOE LLEOL

fas fa-mug-hot

Cynigwn luniaeth AM DDIM i bob aelod mewn sioeau amaethyddol Ileol ledled Cymru.

HOFFECH CHI DDOD YN AELOD NEU DDYSGU MWY?

Cofrestrwch yma a byddwn yn anfon manylion aelodaeth atoch ac yn trefnu galwad o'ch swyddfa sirol leol.

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image