Mae aelodau cyfredol FUW Academi yn mwynhau ystod o deithiau ac ymweliadau addysgol â busnesau fferm. Mae cael cyfle i gwrdd â ffermwyr eraill yn eu hardal yn darparu cyfleoedd i drafod yr heriau tebyg sy'n eu hwynebu.
Trefnwyd teithiau hefyd gyda gwleidyddion yn bresennol sy’n arwain at sgyrsiau gyda llunwyr polisi ac yn rhoi cyfle i aelodau iau gael dweud eu dweud.
Yn ogystal â'r cyfleoedd dysgu a chymdeithasol gwych hyn mae aelodau FUW Academi yn gymwys i bris gostyngedig o £420 ar gyfer hyfforddi a phrawf trelars B+ E (mae'r pris llawn hyd at £600), cyfleoedd hyfforddi eraill wedi'u hariannu'n llawn a mynediad i'r ystod gyflawn o ostyngiadau aelodau.
Manteisiwch ar aelodaeth Academi FUW heddiw a byddwn yn anfon het beanie am ddim yn syth i chi!