UNDEB AMAETHWYR CYMRU - Cydlynydd Gwasanaethau Aelodau
Lleoliad: FUW, Ty Mawr, Llys Owain, Dolgellau, LL40 1AF
Cyflog: Yn dechrau ar £23,000
Cytundeb: Llawn-amser, 35 awr
Dyddiad cau: 25 Chwefror 2026 - rydym yn cadw’r hawl I gau’r swydd wag yn gynnar os byddwn yn dod o hyd I ymgeisydd addas
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais: Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol i sylw Caryl roberts ar caryl.roberts@fuw.org.uk
Pam FUW
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn llais uchel ei barch a dylanwadol mewn amaethyddiaeth yng Nghymru. Drwy ymuno â’n tîm, byddwch yn rhan o sefydliad llawr gwlad â hanes balch a dyfodol dynamig. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr rwdfrydig ac yn cael cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau ffermwyr Cymru a chymunedau gwledig.
Am y rôl
Chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf i aelodau, yn rheoli ymholiadau, yn prosesu aelodaeth newydd ac aelodaeth sydd wedi’i hadfer, ac yn sicrhau bod yr holl wybodaeth aelodaeth a gwasanaeth yn gywir ac yn gyfredol. Mae'r rôl yn cynnwys delio â gweinyddiaeth aelodaeth cyffredinol, cefnogi aelodau gyda gofynion cynlluniau amaethyddol Llywodraeth Cymru, a chynnal cofnodion drwy ein system CRM (ZOHO).
Byddwch yn helpu i drefnu digwyddiadau fel ymweliadau â ffermydd, gweithgareddau codi arian a sioeau, ac yn gweithio gyda thimau rhanbarthol a thîm y Prif Swyddfa i gadw sianeli cyfryngau cymdeithasol Rhanbarthol yn gyfredol gyda newyddion a straeon aelodau.
Disgwylir i chi reoli disgwyliadau aelodau’n broffesiynol, dilyn yr holl bolisïau a gweithdrefnau mewnol, ymgysylltu ag ymgyrchoedd y cwmni, a gweithio’n gydweithredol gyda’ch rheolwr llinell a’r tîm gwasanaethau Aelodau ehangach i gynnal perfformiad uchel a darparu gwasanaeth rhagorol.
Amdanoch chi
Rydym yn chwilio am rywun â chefndir gweinyddol cryf, sgiliau cyfathrebu rhagorol, ac yn ddelfrydol, ddiddordeb yn y sector amaethyddol.
Hanfodol:
● Sgiliau trefnu a rheoli amser cryf
● Cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol
● Y gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm bach
● Hyfedredd yn Microsoft Office ac offer cyfathrebu digidol
● Dull gweithredu proffesiynol a chyfeillgar wrth weithio gydag aelodau a rhanddeiliaid
● Y gallu i deithio i leoliadau eraill yng Ngorllewin Cymru ar gyfer hyfforddiant, digwyddiadau allweddol neu gyfarfodydd
Dymunol:
● Gwybodaeth neu ddiddordeb mewn amaethyddiaeth Cymru, materion gwledig, neu faterion amgylcheddol
● Profiad blaenorol o weithio gyda systemau CRM neu reoli cyfryngau cymdeithasol
● Mae sgiliau Cymraeg (siarad/ysgrifenedig) yn fantais gref
● Mae profiad o gefnogi ceisiadau am grantiau neu waith sy'n seiliedig ar bolisi amaethyddol yn fuddiol

