Image

Tîm Polisi

Rydym yn cadw llygad cyson ar y datblygiadau diweddaraf yn y byd amaethyddol er mwyn cynghori a lobio adrannau a chyrff sy’n gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar amaethyddiaeth yng Nghymru

Ydych chi’n aelod sy’n chwilio am gyngor ac arweiniad ar fater polisi amaethyddol?  Cysylltwch gyda’ch swyddfa leol, cymryd rhan yn y pwyllgorau polisi, neu edrychwch ar y gwefan am mwy o wybodaeth.
Image

Pennaeth Polisi - Dr Nick Fenwick

Magwyd Nick ar ffermydd mynydd yn ardaloedd Talerddig a Machynlleth o Sir Drefaldwyn. Astudiodd cemeg a chemeg cyfrifiannol ym Mhrifysgol Bangor cyn dychwelyd i Sir Drefaldwyn ym 1999 i gwblhau PhD mewn Cemeg Ystadegol Damcaniaethol a Chyfrifiannol. Cyn ymuno gyda thîm polisi UAC yn 2004, roedd ganddo fusnes ymgynghori a rhaglennu cyfrifiadurol yn arbenigo mewn TG ar gyfer busnesau amaethyddol a gwledig ac yn swyddog prosiect ar gyfer y Comisiwn Coedwigaeth/prosiect hanes ar lafar a ariennir gan Treftadaeth y Loteri ‘Story of the Forest ‘. Mae’n briod ag Elizabeth Siân, arlunydd, cynllunydd graffeg a chynllunydd theatr. Mae gan Elizabeth a Nick dwy o ferched, Myfanwy a Morfudd. Yn ei amser hamdden mae Nick yn mwynhau chwarae a gwrando ar gerddoriaeth ac wedi ysgrifennu a recordio gyda nifer o fandiau gan gynnwys Tystion, MC Mabon, Bazwca and Huw Haul.

Dyma ddetholiad o’i gyhoeddiadau ac erthyglau:

 

Image

Dirprwy Bennaeth Polisi - Dr Hazel Wright

Ochr yn ochr â'r Pennaeth Polisi, mae Dr Hazel Wright yn darparu arweinyddiaeth a chyngor ar nifer o faterion sy'n ymwneud â pholisi amaethyddol. Ochr yn ochr â darparu ymatebion i ymgynghoriadau ar faterion perthnasol, mae Hazel hefyd yn darparu tystiolaeth ysgrifenedig a llafar i bwyllgorau allanol, yn cynrychioli buddiannau aelodau i amrywiaeth o randdeiliaid ac yn gwneud dadansoddiad rheolaidd o faterion polisi cyfredol a rhai’r dyfodol.

Mae gwaith Hazel yn cynnwys y materion hynny sy'n ymwneud ag iechyd a lles da byw ac mae hyn yn cynnwys TB, BVD, clafr defaid, cadw golwg ar glefydau, sgil-gynhyrchion anifeiliaid, stoc trig a phoeni da byw. Mae Hazel yn gyfrifol am Bwyllgor Iechyd a Lles Anifeiliaid yr undeb.

Mae gan Hazel radd Baglor yn y Gwyddorau mewn Sŵoleg o Brifysgol Glasgow a PhD mewn Parasitoleg o Brifysgol Aberystwyth. Cyn dechrau’r rôl Uwch Swyddog Polisi yn 2010, roedd Hazel yn gweithio fel Swyddog Polisi Nwyddau FUW

Mae gan Hazel ddiddordeb mawr mewn bioleg afiechydon ac mae wedi bod yn rhan o ystod o brosiectau ymchwil ôl-ddoethurol gan gynnwys rhyngweithiadau gwesteiwr-parasit a phroteomeg parasitiaid. Mae hi wedi cyhoeddi ei hymchwil mewn amrywiaeth o gyfnodolion academaidd.
Image

Uwch Swyddog Polisi a Cyfathrebu - Gareth Parry

Ymunodd Gareth â thîm polisi UAC yn 2019 er mwyn helpu i ddarparu cyfathrebiadau effeithiol ac amserol ar yr holl faterion sy'n ymwneud â pholisi.

Fel Uwch Swyddog Polisi a Chyfathrebu, mae'n gyfrifol am feysydd gwaith perthnasol sy'n ymwneud â chyfathrebu polisi yn fewnol ac yn allanol gan gynnwys darparu newyddion a diweddariadau rheolaidd i swyddogion ac aelodau UAC a'r rhai y tu allan i'r sefydliad. Mae Gareth yn helpu i ddatblygu cysylltiadau er mwyn sicrhau bod safbwynt yr Undeb yn cael ei gyfathrebu'n glir ar faterion deddfwriaethol pwysig sy'n hyrwyddo buddiannau ein haelodau ac yn gosod y seiliau ar gyfer diwydiant amaethyddol sy'n edrych i'r dyfodol. Mae hefyd yn gyfrifol am gyfarwyddo gwasanaethu Pwyllgorau Sefydlog Cyngor yr Undeb.

Mae gan Gareth gefndir teuluol mewn amaethyddiaeth a chyn ymuno â'r tîm polisi, cwblhaodd radd mewn Amaethyddiaeth ac Astudiaethau Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth gydag anrhydedd dosbarth cyntaf.
Image

Swyddog Polisi - Teleri Fielden

Mae Teleri yn ffermwr tenant cenhedlaeth gyntaf sy'n ffermio yn Nantmor, Gwynedd gyda'i gŵr Ned. Fe’i magwyd yn Wrecsam a Meifod, Sir Drefaldwyn. Ymunodd Teleri â'r tîm Polisi yn 2020 ac mae'n arwain ar Newid Hinsawdd, Bioamrywiaeth, Coedwigaeth a Chig Coch yn ogystal â dyluniad cyffredinol cynllun Polisi Amaethyddol y Dyfodol. Yn ystod 2017 bu’n gweithio i UAC fel Rheolwr Marchnata, ac mae wedi bod yn aelod o Bwyllgor Gweithredol UAC Caernarfon.

Astudiodd Teleri Ddaearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae ganddi hefyd Ddiploma Proffesiynol CIM mewn Marchnata a diploma ‘Diplôme en agriculture écologique’ ar ôl ffermio yn Alpau Rhone. Yn y gorffennol, mae hi wedi gweithio mewn rolau bwyd, ffermio ac amgylcheddol amrywiol i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar Ysgoloriaeth Llyndy Isaf, Oakland Food Policy Council, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Maesyfed a Marchnata Bwyd Cyfan - Menter a Busnes. Yn ei hamser hamdden mae'n ffermio!
Image

Swyddog Polisi - Elin Jenkins

Ymunodd Elin ag Adran Bolisi UAC yn 2021, ar ôl gweithio fel Cynorthwyydd Gweinyddol yn cefnogi aelodau UAC yng Ngheredigion ers 2015. Mae ei rôl o fewn y tîm Polisi yn cynnwys Ymwrthedd i Wrthfiotigau, TB, ac adnabod a symudiadau anifeiliaid. Elin hefyd sy’n hwyluso Pwyllgor Cynnyrch Llaeth UAC.

Cyn gweithio gyda UAC, bu Elin yn gweithio o fewn y tîm Rheoli Ansawdd mewn ffatri brosesu maidd ac mae ganddi radd Baglor mewn Gwyddoniaeth mewn Microbioleg a Sŵoleg o Brifysgol Aberystwyth.

Wedi cael ei magu ar fferm deuluol yn magu a dangos defaid Texel pedigri a bellach yn briod â ffermwr llaeth, blaenoriaeth Elin yw cefnogi ac amddiffyn ffermydd teuluol Cymru ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Image

Swyddog y Senedd a Materion Seneddol - Libby Davies

Ymunodd Libby Davies â thîm Polisi UAC yn 2021.  Fel Swyddog y Senedd a Materion Seneddol bydd Libby yn cysylltu â'r Senedd a San Steffan ar ran yr Undeb. Bydd hyn yn cynnwys cyfrifoldeb i drafod materion fel Cytundebau Masnach, Newid Hinsawdd a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.

Mae hon yn rôl ddeuol a bydd Libby hefyd yn ymuno â staff Sir Gwent a Morgannwg fel Swyddog Polisi Gwent a Morgannwg i gefnogi eu hymgysylltiad â rhanddeiliaid a’i cysylltiad gwleidyddol.

Graddiodd Libby o Brifysgol Birmingham gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Gwyddor Wleidyddol a Chysylltiadau Rhyngwladol ac yn ei hamser hamdden mae'n aelod gweithgar o CFfI Pontsenni, ac ar hyn o bryd Libby yw Ysgrifennydd y clwb.

Image

Ymgynghorwr Polisi Arbennig - Rebecca Voyle

Ymunodd Rebecca â thîm polisi FUW yn rhan amser yn 2017 ac mae'n gyfrifol am faterion yn ymwneud â RPW Ar-lein a'i gynlluniau cysylltiedig gan gynnwys Cynllun y Taliad Sylfaenol.

Yn y rôl hon, mae Rebecca’n gweithio’n agos gyda’i chydweithwyr yn y canghennau sirol i’w helpu i ddatrys materion aelodau o ran cynlluniau RPW a’r system ar-lein. Mae Rebecca hefyd yn cynrychioli'r Undeb yng nghyfarfodydd Rhanddeiliaid RPW.

Yn ogystal â'r rôl hon, mae Rebecca yn dal i weithio fel Swyddog Gweithredol Sir FUW yn Sir Benfro, lle mae'n gyfrifol am gefnogi aelodau o ddydd i ddydd, ar ôl ymuno â'r Undeb yn y rôl hon yn 2001.

Mae gan Rebecca radd Baglor mewn Gwyddor Economaidd mewn Cyfrifeg, Cyllid a'r Gyfraith, o Brifysgol Aberystwyth. Cyn ymuno â FUW, bu Rebecca yn gweithio i gwmni ymgynghori yn darparu cyngor a chefnogaeth i ffermydd a oedd ar agor i'r cyhoedd.