UAC yn galaru’r aelod gwreiddiol diwethaf

Gyda thristwch mawr y mae Undeb Amaethwyr Cymru yn cyhoeddi bod yr aelod gwreiddiol diwethaf, Llew Jones wedi marw.

Yn arwain y teyrngedau, dywedodd Llywydd UAC: Rydym yn drist iawn i glywed y newyddion ac mae ein meddyliau a'n chofion cynnes gyda’r teulu ar adeg anodd iawn. Mae marwolaeth Mr Jones yn nodi diwedd cyfnod i UAC a bydd bob amser yn cael ei gofio am ei rhan yn ffurfio'r UAC yn ystod 1955."

Ychwanegodd Glyn Roberts bod Llew, yn 92 oed yn parhau i gymryd diddordeb mawr yn UAC tan ei ddyddiau olaf.

Yn ogystal â bod yn cyn Gadeirydd a Llywydd Pwyllgor Gwaith UAC Sir Gaerfyrddin, roedd Llew Jones hefyd yn gyn Lywydd o’r mudiad CFfI yn y sir, cyn Gadeirydd a Llywydd y Gymdeithas Gwartheg Duon Cymreig, yn gyn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Fferm Hwsmonaeth Arbrofol Pwllpeiran ac yn gyn aelod o Bwyllgor Cynghori Amaethyddol BBC.

Cafodd Llew Jones ei wneud yn flaenor o’i gapel lleol yng Nghilycwm yn ystod 1957 ac roedd yn godwr canu ers 1954. Gwasanaethodd hefyd fel Cadeirydd y Llywodraethwyr yn ysgolion cynradd Cilycwm, Cynghordy a Myddfai. Derbyniodd Llew yr MBE yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 1998.

"Roedd yn fraint enfawr i mi nabod a gweithio gyda Llew. Roedd ganddo angerdd mawr ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru a'r ffordd wledig o fyw, yn enwedig yr iaith Gymraeg.

"Roedd Llew yn meddwl y byd o UAC a’r hyn y mae’n ei gynrychioli, ac mi fyddaf i, a phawb y cafodd y fraint o’i adnabod, yn gweld eisiau ei gyngor doeth ychwanegodd Glyn Roberts.

Mae Llew Jones yn gadael mab, Emyr, sy’n rhedeg y fferm deuluol yng Nghlunmawr yn Rhandirmwyn, Llanymddyfri a’i ferch Rhian. Roedd ei wraig Buddug wedi marw o’i flaen ef.