UAC yn rhoi hwb o £39,000 i elusen y galon yn yr Eisteddfod

Mae ffermwyr Cymru wedi bod yn hael dros ben yn yr Eisteddfod wrth iddynt gyflwyno siec dros £39,000 i Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru (BHF) yn dilyn dwy flynedd o godi arian llwyddiannus.

Sefydlwyd Sefydliad Prydeinig y Galon ym 1961 gan gr?p o weithwyr proffesiynol meddygol a oedd am ariannu ymchwil ychwanegol i achosion, diagnosis, triniaeth ac atal clefyd y galon a chlefyd cylchredol.

Ar ôl hanner canrif o ddatblygiad gwyddonol a chymdeithasol eithriadol maent wedi helpu i drawsnewid sefyllfa clefyd y galon. Diolch i'w hymchwil, mae'r rhan fwyaf o fabanod, sy’n cael eu geni heddiw â namau ar y galon bellach yn goroesi, mae rheolyddion calon yn helpu pobl i reoli cyflyrau ar y galon, mae statinau'n lleihau lefelau colesterol i filiynau, gan leihau'r risg o gael trawiad ar y galon a strôc.

Hefyd, mae’r driniaeth ar gyfer trawiad ar y galon wedi cael ei chwyldroi a gall llawer o gyflyrau etifeddol gael eu diagnosio a'u trin yn llwyddiannus ac atal marwolaeth sydyn.

Wrth gyflwyno'r siec i Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru, dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: "Mae'n bleser gen i gyflwyno'r siec hon werth £39,000 i Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru heddiw. Mae’r gwaith maent yn ei wneud yn hanfodol wrth achub bywydau ac mae’n rhaid i’w hymchwil i glefyd y galon barhau, yn enwedig oherwydd bod 25 o bobl yn colli eu bywydau i glefyd cardiofasgwlaidd bob dydd yng Nghymru, ac yn difetha bywyd i’r rhai sy’n cael eu gadael ar ôl.

“Mae’r arian sydd wedi cael ei godi yn helpu Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru gyda’i hymchwil arloesol, sy’n ganolog i ddarganfod triniaethau hanfodol ar gyfer pobl sy’n byw gyda’r cyflyrau yma.

“Felly, rwyf am ddiolch i holl staff UAC, ffrindiau’r Undeb a’r rhai hynny sydd wedi helpu ni i godi swm anhygoel o arian.  Rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys brecwastau, cerdded llwybr Clawdd Offa, cynnal nosweithiau bingo a gyrfaoedd chwist er mwyn codi arian, a ni fyddai hyn i gyd yn bosibl heb ymroddiad a phenderfyniad pawb a fu’n rhan o’r digwyddiadau.”

Mae Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru wedi bod yn gyfrifol am gyflwyno technegau arloesol mewn ysbytai, gan gynnwys sganiau sy’n medru edrych i mewn i’r galon, a phrofion megis angioplasti sydd bellach yn rhan o’r drefn.  Maent wedi bod yn gysylltiedig â rhai o'r datblygiadau mwyaf mewn triniaeth a gofal ar ôl trawiad ar y galon, o ddarganfod cyffuriau clotio ac effeithiolrwydd statinau i’r gofal mae cleifion yn ei dderbyn yn yr ysbyty.

Dywedodd Rheolwr Codi Arian Sefydliad Prydeinig y Galon De Orllewin Cymru Jayne Lewis: “Hoffwn ddiolch i Undeb Amaethwyr Cymru am yr holl gymorth a chefnogaeth dros y ddwy flynedd diwethaf.  Mae gormod o fywydau yn cael eu colli i glefyd y galon a chlefyd cylchredol yng Nghymru bob blwyddyn, ac rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn mwy o deuluoedd rhag y golled hon.

"Yn ystod mis yma, mae oddeutu 375,000 o bobl ledled Cymru yn ymladd y frwydr ddyddiol hon, a diolch i'r grwpiau a sefydliadau lleol, byddwn yn gallu ariannu hyn yn oed yn fwy o ymchwil i'r cyflyrau hyn."

Dywedodd Prif Weithredwr Sefydliad Prydeinig y Galon Simon Gillespie:"Hoffwn ddiolch yn fawr i Undeb Amaethwyr Cymru. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae ein partneriaeth wedi codi arian hanfodol sydd wedi hybu ein hymchwil i achub bywyd yng Nghymru.

"Rydym wedi arloesi ymchwil sydd wedi trawsnewid bywydau miliynau o bobl sy'n byw gyda chlefyd y galon, a hynny ers dros 50 mlynedd. Ond mae clefyd y galon a chlefyd cylchrediad yn dal i ladd mwy na 750 o bobl y mis yng Nghymru yn unig, a’u cymryd oddi wrth eu teuluoedd a'u hanwyliaid."