Hyd yn hyn mae’r Cymhelliad Ffermio Cynaliadwy (SFI) a lansiwyd yn Lloegr ym Mehefin y llynedd, i gymryd lle Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS), wedi talu 224 o ffermydd yn unig, yn ôl ffigurau a ryddhawyd yn answyddogol gan bapur newydd The Guardian. Cafodd taliadau BPS i ffermwyr yn Lloegr eu cwtogi yn 2021 a’r bwriad yw eu diddymu’n llwyr erbyn 2027. Mae’r cyfanswm o 224 o ffermydd sy’n derbyn taliadau SFI yn cyfrif am 0.2% yn unig o’r 102,000 o hawlwyr BPS.
Mae gweinidog ffermio DEFRA, Mike Spencer, wedi dweud fod yr arian a gymerwyd o’r BPS wedi bod ar gael i ffermwyr drwy grantiau unigol a chynlluniau parhaus. Mae’r ffaith mai dim ond nifer fach sydd wedi manteisio ar yr SFI wedi arwain at feirniadaeth ynghylch diffyg hyder, yn sgil diffyg manylion am y cyfraddau tâl a’r safonau gofynnol.
O 2023, cyflwynwyd taliad newydd o £20 yr hectar ar gyfer y 50 hectar cyntaf, i gwrdd â chostau cymryd rhan yn y cynllun SFI, a bwriedir ychwanegu mwy o opsiynau.