Rhaid darparu cyllid ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru y tu allan i fformiwla Barnett, meddai UAC

 

Mewn cyfarfod o’r Cyngor yn Aberystwyth, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi lansio ei ymgyrch 'Cyllid Teg i Ffermwyr’ er mwyn tynnu sylw at yr angen ar frys i Lywodraeth y DU egluro cyllid ar gyfer y sector yng Nghymru.

Nod yr ymgyrch yw sicrhau cyllid teg i ffermwyr yng Nghymru ar ôl gadael yr UE, gan sicrhau nad yw'r diwydiant yn derbyn llai nag a wnaeth cyn i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae hefyd yn mynnu na ddylai arian ar gyfer ffermio fod yn unol â Fformiwla Barnett.

Wrth lansio'r ymgyrch ym Mhrif Gyngor yr Undeb, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Alan Davies: "Yn hanesyddol, mae'r arian i gefnogi ffermio yng Nghymru wedi dod o'r Polisi Amaethyddol Cyffredin, ond unwaith y bydd y DU yn gadael yr UE ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf bydd y cyswllt hynny’n cael ei dorri.

"Bydd yn rhaid i unrhyw arian i gefnogi amaethyddiaeth ddod o Drysorlys y DU. Rydym eisoes wedi clywed y bydd y Llywodraeth yn ymrwymo'r un swm o arian i amaethyddiaeth ar gyfer gweddill tymor y senedd hon. Ond mae cymhlethdodau ynghylch sut bydd y cyllid hwnnw’n cael ei ddosbarthu.

"Os bydd Trysorlys y DU yn sicrhau taliadau cyfredol yr Undeb Ewropeaidd o £3.5 biliwn i DEFRA, fel y disgwylir iddynt wneud, i gefnogi amaethyddiaeth y DU, mae o leiaf ddwy ffordd y gellir dosbarthu'r arian hwnnw i Gymru. Un dull a'r un a ddefnyddir yn aml yng nghyfrifiadau ariannol Llywodraeth y DU yw defnyddio Fformiwla Barnett."

Esboniodd Mr Davies, pan ddosberthir arian "newydd" i adran y llywodraeth, yn gyffredinol "canlyniad Barnett" i Gymru yw oddeutu 5.6% o gyfanswm yr arian a ddosberthir. Mae hynny'n golygu, os bydd DEFRA yn derbyn £3.5 biliwn, y "canlyniad" i Gymru fydd oddeutu £196 miliwn.

"Yn hanesyddol, mae Cymru wedi derbyn tua 9.4% o gyfanswm dosbarthiad cyllideb PAC yr UE i'r DU. Byddai hynny'n cyfateb i £329 miliwn. Byddai Barnett yn lleihau ein cyllid o tua 40% ac ni ddylai hynny ddigwydd.

"Er mwyn darparu Cyllid Teg i Ffermwyr Cymru, mae'n hanfodol felly bod Llywodraeth y DU yn dosbarthu arian y tu allan i fformiwla Barnett. Mae angen sicrwydd ar frys yng Nghymru y byddwn yn derbyn, o leiaf, ein cyfran hanesyddol o gyllideb datblygu amaethyddol a gwledig y DU fel yr addawyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol Michael Gove, yn enwedig gan fod angen i'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf fod ar waith erbyn mis Hydref eleni, "ychwanegodd.

Wrth ddyfynnu Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, dywedodd Mr Davies wrth gynulleidfa’r cyngor: "Er mwyn cyflawni hyn bydd angen ffordd newydd o weithio ac roedd UAC yn falch o glywed bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd yn rhaid i 'arian amaethyddol gael ei gadw mewn pot ar wahân ac ymdrin ag ef mewn ffordd wahanol '. "

Ychwanegodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: "Eleni, rydym yn dathlu 40 mlynedd o gael ein cydnabod yn ffurfiol gan Lywodraeth y DU i siarad ar ran ffermwyr Cymru yn gyfan gwbl, a gadewch i mi fod yn glir, ychydig iawn o weithiau yn ystod y cyfnod hwnnw lle mae'r angen am ein Undeb wedi bod yn fwy - i ymladd dros nid yn unig bod ein ffermydd teuluol yn goroesi ond ar gyfer dyfodol ffyniannus i'n haelodau a phawb sy'n gwneud bywoliaeth o amaethyddiaeth.

"Gyda hyn mewn golwg, rydym yn falch o lansio'n swyddogol ein hymgyrch ‘Cyllid Teg i Ffermwyr’ yma heddiw."

https://vimeo.com/256086814