Dr Nicholas Islwyn Dugdale Fenwick
Magwyd Dr Fenwick ar ffermydd mynydd yn ardaloedd Talerddig a Machynlleth yn Sir Trefaldwyn ac astudiodd Cemeg ym Mhrifysgol Bangor cyn dychwelyd i Sir Drefaldwyn ym 1999.
Cyn ymuno gyda thîm polisi UAC yn 2004, roedd yn gyfrifol am fusnes ymgynghorol cyfrifiadurol ac yn arbenigo mewn technoleg gwybodaeth ar gyfer busnesau amaethyddol a gwledig.
Cafodd ei benodi fel Swyddog Polisi (Cynhyrchion) UAC yn 2004 a cafodd ei dyrchafu i fod yn Gyfarwyddwr Polisi Amaethyddol yn 2007.
Mae'n briod i Elizabeth sy'n gynllunydd theatr ac yn gyd-sylfaenydd a pherchennog Cwmni Cyhoeddi Chwaer Annifyr. Mae gan y ddau ddwy o ferched sef Myfanwy a Morfudd.
Yn ei amser hamdden, mae Nick yn mwynhau gwrando a chwarae cerddoriaeth. Mae wedi bod yn aelod ac wedi cyd-ysgrifennu caneuon gyda Datsyn, Tystion, MC Mabon, Baswca, Badon a Huw Haul.
Cyhoeddiadau
- Modelled impacts of badger culling on cattle TB in a real area with geographic boundaries (2011). Fenwick, N. I. D.
- A Portrait of Machynlleth and its Surroundings (2009). "Caradawc o Lancarfan". Translated by Nicholas Fenwick. Paperbound. 192 pages
- The rapid and accurate determination of germ tube emergence site by Blumeria graminisconidia (2000). Wright, A. J., Carver, T. W. L., Thomas, B. J., Fenwick, N. I. D., Kunoh, H. and Nicholson, R. L.
- Computer simulation of a Langmuir trough experiment carried out on a nanoparticulate array (2001). Fenwick, NID, Bresme, F, Quirke, N