Swyddog Polisi (Defnydd Tir)

Andrew Paul Gurney

Magwyd Andrew yn Ormskirk, tref marchnad yng ngorllewin swydd Gaerhirfryn a symudodd i Aberystwyth ym 1998 i astudio cwrs Baglor yn y Gwyddorau mewn Rheolaeth Cefn Gwlad yn Sefydliad Astudiaethau Gwledig Cymru, Prifysgol Aberystwyth.

Ar ôl graddio, mae wedi gweithio i nifer o gwmnïau yn y sector cyhoeddus cyn ymuno gyda Undeb Amaethwyr Cymru yn 2008.

Yn ei amser hamdden, mae Andrew yn Swyddog Diogelwch trwyddedig ar gyfer ralïau ceir gyda'r Gymdeithas Chwaraeon Moduron ac yn cynorthwyo gyda nifer o gymalau ralïau yn yr ardal lleol ac ymhellach. Mae hefyd yn aelod gweithgar o'r Clwb Perchnogion Mini lleol ac yn mynychu arddangosfeydd trafnidiaeth lleol gyda'i wraig a'i Mini Clasurol hi.

Mae Andrew yn briod i Liz sy'n gynorthwyydd gofal iechyd ac mae ganddynt gi o'r enw Roxie.