Helen Ovens
Cafodd Helen ei magu yng Ngheredigion, ac mae ganddi brofiad helaeth o gefnogaeth amaethyddol a materion datblygu gwledig yng Nghymru a'r DU. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Swyddog Trosglwyddo Gwybodaeth gyda Hybu Cig Cymru, gan weithio gyda ffermydd arddangos a grwpiau trafod ledled Cymru. Cyn hynny bu Helen yn cynorthwyo ffermwyr i gael cyllid datblygu gwledig yn Swydd Efrog, wrth weithio i'r Asiantaeth Datblygu Ranbarthol, Yorkshire Forward, ar ran Defra.
Mae ganddi brofiad ymarferol o weithio ar ffermydd cig eidion a defaid yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, ac mae ganddi MSc mewn Gwarchod Cnydau o Goleg Amaethyddol yr Alban yn Aberdeen, a BSc mewn Datblygu Gwledig o Brifysgol East Anglia. Hefyd bu Helen yn gweithio mewn amaethyddiaeth dramor, gyda chynhyrchwyr ar raddfa fach yn Uganda, a dyna lle cyfarfu â'i g?r Innes.
Meysydd gwaith cyfredol eraill sydd o ddiddordeb i Helen yw systemau rheoli glaswelltir, ynni adnewyddadwy, ac effeithlonrwydd adnoddau ar y fferm. Tu allan i oriau gwaith, mae diddordebau Helen yn cynnwys cadw gwenyn, yn ogystal â cheisio cadw'r diwydiant gwlân i fynd drwy wau’n ffyrnig ar bob cyfle posib, a gwella ei sgiliau ieithyddol yn y Gymraeg.