Mae adran bolisi UAC wedi ei leoli yn y brif swyddfa ym Mhlas Gogerddan ac yn gyfrifol am arwain a chydosod sylwadau'r aelodau trwy'r deuddeg swyddfa sirol sydd gan yr Undeb a'r un ar ddeg pwyllgor polisi.
Mae staff yr adran yn arolygu'r datblygiadau diweddaraf o fewn y byd amaethyddol yn gyson er mwyn cynghori a phwyso ar adrannau a chyrff sy'n gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar amaethyddiaeth Gymreig.
Dyma rai o'r materion sy'n cael sylw gan yr adran:
- Polisi Gwledig cyffredinol
- Y Cynllun Datblygu Gwledig (yn cynnwys Echel 2 sef Amaeth-Amgylchedd, Tir Mynydd, Glastir a'r Cynllun Grantiau Coetir.
- Polisi Amaethyddol Cyffredin
- Twbercwlosis mewn gwartheg
- Deddfwriaeth Ewropeaidd
- Clefydau Endemig
- Lles Anifeiliaid a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid
- Clefydau Egsotig a Chynlluniau wrth Gefn
- Y strategaeth iechyd a lles anifeiliaid
- Cludiant ac Adnabod Anifeiliaid
- Polisi Coedwigaeth
- Tir Comin
- Y Gyfarwyddeb D?r (yn cynnwys ardaloedd sy'n agored i nitrogen)
- Cynllun y Taliad Sengl
- System Integredig Rheolaeth Weinyddol
- Tenantiaeth Fferm
- Ymchwil a datblygiad amaethyddol
- Iechyd planhigion
- Bywyd gwyllt a bioamrywiaeth
- Newid yn yr hinsawdd
- Diogelu'r Amgylchedd
- Cyswllt Ffermio
- Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm
- Rhannu cyfrifoldebau a chostau
- Hela a rheoli plâu
- Cynllunio
- Datblygiad Bwyd a Marchnad
- Gofynion rhwymo cig
- Twristiaeth Fferm
- Arallgyfeirio ar ffermydd
- Cymorthdaliadau Allforio a Thariff Mewnforio
- Trawsgydymffurfio
- Ardaloedd Llai Ffafriol a Thir Mynydd
- Addysg
- Iechyd a Diogelwch
- Rheolaeth ar wastraff
- Sefydliad Masnach y Byd
- Cerbydau a Thrwyddedau
Mae'r adran hefyd yn gweithio'n agos gydag adran wasg yr Undeb er mwyn datblygu ymgyrchoedd i ddenu sylw at y rhan allweddol mae amaethyddiaeth yn chwarae i ddiogelu amgylchedd Cymru a chynnal cymunedau a diwylliant gwledig.
Learn more about the Union's policies here
Pwyllgorau
The FUW's policy committees are made up of county delegates and co-opted members, and meet regularly to discuss and scrutinise matters related to their specific remits.
Learn more about the work of the Union's committees:
- Pwyllgor Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Pwyllgor Tir Âr
- Pwyllgor Tir Comin
- Pwyllgor Addysg ac Hyfforddiant Amaethyddol
- Pwyllgor Arallgyfeirio Fferm
- Pwyllgor Ffermio Mynydd a Thir Ymylol
- Pwyllgor Defnydd Tir a Materion Seneddol
- Pwyllgor Da Byw, Gwlân a Marchnadoedd
- Pwyllgor Llaeth a Chynnyrch Llaeth
- Pwyllgor Tenantiaid
- Pwyllgor Llais Yr Ifanc Dros Ffermio