Dyma rysáit hawdd yn defnyddio golwythion Cig Oen. Mae Cumin yn sbeis sy’n gweithio’n wych gyda chig Oen, ddim yn rhy sbeislyd, ond yn ddigon cryf i ddod a’r blas gorau allan o’r Cig Oen.
Bydd angen:
6 Golwyth o Gig Oen Cymreig
1kg Tatws Newydd
1 Clof o Arlleg- gratio neu dorri’n fan.
1 lemwn – croen wedi ei gratio yn fan, a sudd ar wahân.
2 llwy fwrdd o olew olewydd neu olew coginio ansawdd uchel (extra virgin) (mae olew Blodyn Aur yn gweithio’n dda)
Mintys Ffres wedi ei dorri’n fan.
1 llwy de o Cumin
Dull:
- Berwi’r tatws am 15 munud. Ar ôl draenio, cymysgu 1 llwy fwrdd o olew, y garlleg, croen y lemwn a’r cumin gan orchuddio’r tatws. Cadwch y gymysgedd yn y sosban gyda’r caead arni mewn lle cynnes.
- Rhwbio 1 llwy fwrdd o olew dros y golwythion cig oen, ynghyd a phinsiad o halen a phupur. Cynhesu padell addas, a choginio’r golwythion ar wres uchel am tua 4 munud ar bob ochr. Yn syth ar ôl tynnu’r badell oddi ar y gwres, tolltwch sudd y lemwn drostynt. Gadewch i orffwyso am o leiaf 5 munud cyn gweini.
- Cyn gweini, cymysgu’r mintys i mewn i’r sosban datws a gweini’r cyfan gyda Salad neu bys wedi eu berwi.