Gyda mwy o bobl adref a gyda mwy o amser i fod yn y gegin, mae'n gyfle perffaith i geisio gwneud pethau newydd. Beth am geisio gwneud eich iogwrt eich hunain? Bydd plant wrth eu boddau yn helpu ac yn gweld y broses, a byddwch yn cefnogi ein ffermwyr llaeth ar yr un adeg!
Bydd angen:
1 litr o laeth llawn braster
3 llwy fwrdd o iogwrt byw (Iogwrt naturiol Llaeth y Llan yn gweithio'n berffaith)
Bydd angen y cyfarpar canlynol:
Thermomedr, Sosban, llwy bren, Fflasg
Dull
- I ddechrau rhowch y llaeth mewn sosban, a chynhesu'r llaeth i 85 gradd selsiws.
- Unwaith bydd y llaeth wedi cyrraedd 85 gradd, tynnwch ef oddi ar y gwres a'i adael i oeri, nes y bydd wedi cyrraedd 45 gradd (tua 5-10 munud)
- Unwaith bydd y llaeth yn 45 gradd, cymysgwch yr iogwrt byw i mewn gyda'r llaeth.
- Rhowch y gymysgedd mewn fflasg sy'n selio'n dda a gadwch iddo fod am 8 awr.
- Ar ôl 8 awr, rhowch y gymysgedd mewn jariau neu botiau wedi eu diheintio a'u gosod yn yr oergell. Bydd yr iogwrt yn iawn i'w fwyta am ychydig ddiwrnodau. Cofiwch arogli a chadw golwg ar yr iogwrt cyn ei fwyta, gan fod bacteria byw yn cael ei ddefnyddio, mae'n bwysig bod yn ofalus. Fel unrhyw fwyd, os oes arogl drwg arno, peidiwch â'i fwyta!
- Gellir defnyddio'r iogwrt ar gyfer brecwast iachus gyda ffrwythau, mewn pwdinau blasus, neu wrth goginio cyri neu gawl.