Wrth i Undeb Amaethwyr Cymru ddathlu 70 mlynedd ers ei sefydlu yn 1955, ein Pennaeth Cyfathrebu, Aled Morgan Hughes, sy’n cyfweld rhai o ffigyrau amlycaf yr Undeb dros y degawdau, gan ddechrau gyda Mr Bob Parry, ein Llywydd rhwng 1991 a 2003.
1. Beth oedd uchafbwynt eich cyfnod fel Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru?
A minnau wedi bod yn Llywydd ar yr Undeb am dros ddegawd, mae yna lot fawr o uchafbwyntiau ac atgofion melys iawn.
Un o’r amlycaf, ac un enillodd gryn gyhoeddusrwydd ar y pryd, oedd cael ymweld gyda thair o ffermydd yn Sir Gaerfyrddin yng nghwmni Tywysog Cymru yng nghanol y 1990au. Dilynodd yr ymweliadau gyfarfod gyda’r Tywysog yn ei blasty yn Highgrove, ac rwy’n cofio derbyn galwad gan ei Ysgrifennydd i drefnu’r cyfarfodydd hyn - a hynny heb unrhyw sôn am yr NFU!
Y bwriad oedd iddo hedfan yn ei hofrennydd i Abertawe, ond oherwydd y niwl, bu’n rhaid iddo lanio yng Nghaerdydd yn lle - ac felly awr yn hwyr yn ein cyrraedd. Cynigiais wrtho os oedd am dorri un o’r ffermydd o’r rhestr ymweld, ond gwrthododd yn llwyr, gyda’r ymweliad i’r fferm olaf, Caws Cenarth, yn rhedeg drosodd o awr.
Aeth y tri ymweliad fferm yn dda iawn, ac rwy’n cofio ymweld gyda fferm Brian Walters, gyda gwraig Brian wedi paratoi bara brith ar gyfer yr ymweliad. Roedd hi’n amlwg fod y Tywysog yn chuffed iawn gyda’r bara brith - a’r mwynhad i’w weld ar ei wyneb yn glir!
Atgof arall sy’n aros yn y cof yw cael ymweld ag Oman yn y Dwyrain Canol gyda Peter Davies yng nghanol y 1990au, a oedd hefyd yn fraint a phrofiad a hanner.
Uchafbwynt arall, oedd cael gwahoddiad i agoriad swyddogol y Cynulliad - a chael arwain dirprwyaeth allan o gyfarfod gyda’r Prif Weinidog newydd yn nyddiau cynnar y sefydliad yn dilyn penodiad llysieuwraig fel Gweinidog Amaeth - a hynny o foddhad i nifer o ffermwyr a oedd yn protestio tu allan!
2. Beth oedd yr her fwyaf i chi ei wynebu fel Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru?
Daeth yr heriau mwyaf fy Llywyddiaeth o argyfwng y BSE ac wrth gwrs clwy’ Traed ar Gennau yn 2001. O ran y clwy’ Traed ar Genau, dwi’n cofio glanio o awyren ym Mrwsel ar gyfer cyfarfod yno, gan dderbyn galwad i glywed bod y clwy’ wedi cyrraedd Ynys Môn - a hynny mewn lladd-dy yn y Gaerwen, rhyw 6 milltir a hanner o lle roeddwn i’n ffermio. Daeth hynny fel sioc fawr i mi.
Roedd hi’n amlwg yn gynnar iawn, nad oedd yna unrhyw gynlluniau na syniadau gan y Llywodraeth ar sut i daclo’r clwy’, ac roedd yno ddibyniaeth fawr ar yr FUW ac NFU i gynnig syniadau.
Un o’r camau cyntaf wrth gwrs oedd sortio’r compensation i ffermwyr, a ddaeth yn weddol hawdd. Y broblem fwyaf oedd trefnu beth i wneud efo’r carcases. Ar y dechrau, yr arfer oedd i’w llosgi ar y fferm, a oedd yn beth digalon tu hwnt i’w weld. Dwi’n cofio gyrru nôl i’r gogledd o Gaerdydd un tro, a stopio ger Hereford, gan weld tannau yn llosgi ar hyd cefn gwlad. Roedd hynny’n her fawr, a llwyddwyd yn y pendraw i’w symud i ladd-dai.
Roedd yna gyfarfodydd bob yn ail ddiwrnod, a oedd yn straen hefyd. Dwi’n cofio un tro gyrru o Gaerdydd a nôl i’r gogledd, dim ond i dderbyn galwad yn Aberystwyth yn nodi fod angen i mi fynd i gyfarfod yn Llundain gyda Tony Blair y bore wedyn - felly doedd dim dewis ond troi nôl am Gaerdydd am y noson, a gadael yn gynnar y bore wedyn am Lundain. Roedd o’n gyfnod heriol tu hwnt yn ymarferol ac yn feddyliol.
Yn ymarferol hefyd, mae hi werth nodi, daeth datganoli a rhai heriau. Cyn datganoli, roedd nifer fawr o’r cyfarfodydd yn Llundain - rhyw 3 awr a hanner o adref yn Ynys Môn, ond wrth sefydlu’r Cynlluniad, a chyfarfodydd yng Nghaerdydd, roedd y daith dros 5 awr - a hynny ymhell cyn unrhyw sôn am gyfarfodydd Zoom!
3. Yn eich barn chi, beth yw’r her fwyaf sy’n wynebu’r sector amaeth heddiw?
Roeddwn yn Lywydd ar gyfnod digon helbulus, gyda lot o’r trafodaethau a chyfarfodydd yn ymwneud gyda thrin pobl a phersonoliaethau. Erbyn heddiw, mae yna gymaint mwy o bwyslais ar bolisi, ac a dweud y gwir, yn aml mae rhywun yn meddwl bod angen cefndir academaidd i allu delio’n llawn gyda’r holl bwyslais ar faterion y dydd erbyn hyn.
Yn fwy ymarferol o ran heriau i ffermio, mae’n amlwg bod costau rhedeg ffermydd yn uchel iawn yn y diwydiant erbyn hyn. Mae hyn yn faich mawr ar y diwydiant, gan gael effaith enfawr ar elw busnesau. Yn yr un modd, mae’r tywydd i’w weld yn fwyfwy o her hefyd. Fel ‘de ni wedi’i weld dros y misoedd ar flwyddyn ddiwethaf, mae yna gynnydd mewn tywydd eithafol a garw wedi bod, gan achosi problemau a chostau i ffermydd.
4. Pam fod Undeb Amaethwyr Cymru yn bwysig?
Does dim dwywaith bod Undeb Amaethwyr Cymru mor bwysig nawr ag yr oedd o 70 mlynedd yn ôl, a nifer o’r achosion sylfaenodd yr Undeb yn parhau’n ganolog at ei bodolaeth. Heblaw am Undeb Amaethwyr Cymru fyddai ddim hanner cymaint o weithgareddau na diddordeb yn llais ein ffermydd bach yma yng Nghrymu. Dwi’n cofio mynychu sawl cyfarfod gyda’r NFU ar hyd fy ngyrfa fel Llywydd - gyda fy nghar bach innau digon tila i gymharu â rhai o gerbydau’r NFU!
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn parhau i fod yn llais i’r ffermwyr bach teuluol a braint oedd hi i fod yn Llywydd ar yr Undeb - a hynny’r 3ydd Llywydd o Sir Fôn hefyd.