
Categorïau Aelodaeth

Aelodaeth amaethyddol llawn
Mae’r gyfradd aelodaeth yn dibynnu ar sawl erw yw’r fferm. Ffoniwch eich swyddfa leol heddiw i gael rhagor o wybodaeth!

FUW Academi
Mae ein categori aelodaeth FUW Academi yn benodol ar gyfer pobl ifanc sy'n ymwneud â phob agwedd o ddiwydiant gwledig. Trwy ddod yn aelod Academi FUW byddwch yn cael gwybod am y newyddion, digwyddiadau a chyfleoedd amaethyddol diweddaraf yng Nghymru. Dyma'r cam nesaf perffaith i aelodau sy'n gadael oedran cystadleuol y CFfl.
Fel aelod FUW Academi byddwch chi’n cael:
- Hyfforddiant a phrawf trelar B + E am bris gostyngol
- Papur newydd Y Tir yn y post bob mis
- Eich gwahodd i amrywiaeth o ymweliadau fferm, profiadau a digwyddiadau.
Byddwn hefyd yn anfon Bwletin Amaethyddol rheolaidd atoch gyda'r cyfleoedd diweddaraf yn amaethyddiaeth megis grantiau, cynlluniau hyfforddi a phartneriaethau a byddwch hefyd yn gallu manteisio ar holl ostyngiadau aelodau FUW!