Image

Cyfrannu

Bob blwyddyn mae UAC a'i haelodau'n codi swm mawr o arian i elusennau enwebedig ein Llywydd. Eleni rydym yn falch o gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru.

Ariennir Elusen Ambiwlans Awyr Cymru gan bobl Cymru. Maent yn gweithredu pedwar o'r ambiwlansys awyr mwyaf blaenllaw yn y DU, gan arbed amser gwerthfawr ac achub bywydau – diolch i bobl Cymru.

Maent yn dibynnu'n gyfan gwbl ar eich rhoddion elusennol i godi £11.2 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r Cerbydau Ymateb Cyflym ar y ddaear ledled Cymru.

Ffurfiwyd yr Elusen ar Ddydd Gŵyl Dewi 2001 ac erbyn hyn mae ganddi bedwar hofrennydd sydd wedi'u lleoli ledled Cymru yn Llanelli, Caernarfon, y Trallwng a Chaerdydd.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Mae'r elusen wedi ymateb i fwy na 42,000* o alwadau ac ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Maent yno i bobl Cymru, pryd bynnag a ble bynnag y bydd ein hangen arnynt.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Elusen ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Defnyddiwch y botwm rhoi i ddangos eich cefnogaeth. Telir yr holl roddion a godir ar y dudalen hon yn llawn i Elusen Llywydd UAC.