Fferm Cae Coch, Rhydymain, yw cartref y cyflwynydd teledu adnabyddus a'r hyrwyddwr ffermio Alun Edwards. Mae'r fferm, wedi'i lleoli ar grib Aran Fawddwy, yn cynnwys 735 erw ac nid oes modd mynd a thractor yn agos i 480 erw ohono. Mae’n fferm fynydd ac yn ymestyn hyd at bron i 3000 troedfedd.
Wrth yrru i fyny trac fferm fer, mae'n amhosibl peidio â sylwi pa mor wyrdd yw hi yma. Mae’r bryniau cyfagos yn amlwg, gyda choed yn amgylchynu’r caeau bach gwasgaredig, nid oes yr un ohonynt yn fwy na 5 erw. Mae yna ychydig o anifeiliaid wedi'u gwasgaru arnynt - gwartheg Duon Cymreig a'u lloi yn gorffwys, yn cnoi cil; mae ychydig o ddefaid i'w gweld ar gribau'r mynydd.
Mae yna gaeau gwair gyda blodau ynddynt, blodau menyn a llygad y dydd. Nid yw'r tir yn cael ei wthio yma ac mae yna ddail tafol, ysgall a dant y llew. Mae gan y caeau wrychoedd a waliau cerrig fel ffiniau, ac maent wedi bod yma ers yr oesoedd canol. Wrth symud i fyny trwy'r tir, mae'n serth ac yn wynebu'r gogledd, llwyni neu dir ffridd fel y'i gelwir yma ac yna tir heb ei wella sy'n cynnwys eithin. Mae yna rug porffor ar y fflat cribog ac yna byddwch chi'n cyrraedd y mynydd gwyn - lle byddwch chi'n dod o hyd i hesg a'r defaid yn pori yn yr haf. Lle bynnag rydych chi'n edrych mae'n teimlo fel cyfuniad o dir gwyllt a thir wedi'i reoli.
Mae Alun wedi plannu 20 mil o goed gwrych ar y tiroedd isaf, cafodd 6 erw o goetir ar dir llethrog, sydd ddim yn addas ar gyfer pori da byw ei ffensio a phlannwyd 300 o goed derw, dechreuwyd ar waith gwella ar yr afon sy'n rhedeg trwy'r fferm ac mae'n amlwg bod y gwaith amgylcheddol yma yn cael ei wneud gydag angerdd a brwdfrydedd, o waliau cerrig sych, plannu coed, a phlygu gwrychoedd. Mae Alun hefyd wedi ymuno â chynllun atal llifogydd gyda Pharc Cenedlaethol Eryri yn ogystal ag ychwanegu paneli solar ar y siediau gwartheg, ac mae wedi dechrau cadw gwenyn.
Mae ffermwyr fel Alun yn deall yr angen i edrych ar ôl yr amgylchedd a'r rôl y mae cynhyrchu bwyd yn ei chwarae wrth gynnal bioamrywiaeth a chynefinoedd, ond hefyd y rôl y mae ffermwyr yn ei chwarae yn yr economi wledig, diwylliant a chymdeithas ehangach.
Mae’r amgylchedd a'n rheolaeth ohono yr un mor ganolog i'n bodolaeth a'n amcanion â chynhyrchu bwyd