Ffermwyr Gyfarwyddwyr Bwrdd UAC
Mae’r Bwrdd Cyfarwyddwyr yn cynnwys Llywydd UAC Ian Rickman, Dirprwy Lywydd UAC Dai Miles, Prif Weithredwr y Grŵp Guto Bebb, Cyfarwyddwr Cyllid Simon Longworth, y Ffermwyr Gyfarwyddwyr Darren Williams, Alan Gardner a Wyn Williams, yn ogystal â’r Cyfarwyddwyr Anweithredol Nerys Evans a Sara Jones, sy'n dod ag arbenigedd amrywiol i'r bwrdd o ran busnes a llywodraethu.
Mae ein Cyfarwyddwyr Ffermwyr yn dod â’r elfen llawr gwlad i’r bwrdd gyda’u cyfoeth o arbenigedd o ffermio i fusnes, a diolchaf i’r tri ohonynt am y gwaith y maent eisoes wedi’i wneud dros y blynyddoedd a’u hymrwymiad parhaol i ddyfodol yr Undeb hon.
“Edrychaf ymlaen at greu strategaethau ffres ar gyfer UAC ac rwy’n gyffrous i weithio gyda thîm mor wych. Bydd ein strategaethau yn parhau i gael eu gyrru gan effeithiolrwydd, gwell llywodraethu, tryloywder ac effeithlonrwydd,” meddai Llywydd UAC, Ian Rickman.
Darren Williams
Mae Darren Williams yn ffermwr tenant ar fferm 270 erw y tu allan i Aberhonddu. Ynghyd â'i wraig Rachel a dau fab ifanc, maent yn cadw 500 o ddefaid, 100 o ŵyn benyw a 100 o wartheg. Ar ôl ennill BSc mewn amaethyddiaeth yn Aberystwyth, dechreuodd ffermio ar ddaliad cyngor sir yn Glasbury ac yna bu’n ddigon ffodus i symud i fferm denant fwy 9 mlynedd yn ôl. Mae'r fferm yn fferm gymysg, yn tyfu corn eu hunain ar gyfer pesgi gwartheg, ac yn tewhau eu hŵyn ar gnydau porthiant a phorfa a meillion coch. Mae hefyd yn cynrychioli UAC ar y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth sy'n delio â Chyflogau Amaethyddol.
Alan Gardner
Cafodd Alan Gardner ei fagu ar fferm ucheldir, yn cadw gwartheg bîff a defaid ger y Drenewydd, ac yna symudodd i Sir y Fflint ym 1991 i weithredu cytundeb ffermio ar y cyd, gan ddatblygu’r fferm o 150 erw i denantiaeth Busnes Fferm 300 erw. Arallgyfeiriodd Alan i stablau a storio a phrosesu coed ar hen fferm foch. Mae Alan yn Arweinydd Agrisgôp gyda Cyswllt Ffermio, ac wedi sefydlu llawer o grwpiau gan gynnwys merched a ffermwyr llaeth ifanc. Mae hefyd yn aelod ac yn gyn-gadeirydd o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru, ac yn ddiweddar mae wedi cwblhau tystysgrif ôl-raddedig mewn Arwain Newid yn Ysgol Fusnes Prifysgol Aberystwyth. Mae Alan wedi bod mewn sawl rôl gyda UAC gan gynnwys Is-lywydd, Cadeirydd Pwyllgor Da Byw, Gwlân a Marchnadoedd, ac ef oedd Cyfarwyddwr enwebedig yr Undeb wrth greu Hybu Cig Cymru, ac yn aelod o Fwrdd y sefydliad wedi hynny.