Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn ymateb i amlinelliad diwygiedig y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Heddiw (25 Tachwedd), cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS, amlinelliad diwygiedig o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) a chrynodeb weithredol o ganfyddiadau’r Panel Adolygu Tystiolaeth Atafaelu Carbon.

Wrth ymateb i’r datganiad, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: 

“Mae llwyth gwaith y tri grŵp rhanddeiliaid dros y misoedd diwethaf wedi bod yn ddwys wrth i ni weithio, a chytuno mewn egwyddor, ar gynllun diwygiedig. Rydym wedi croesawu’r cyfle i ymgysylltu a chydweithio ar y lefel hon ac yn credu ein bod bellach mewn lle gwell o ganlyniad.

“Gyfochr â materion pwysig, parhaus eraill megis y Diciâu, rheoliadau ansawdd dŵr a newidiadau i’r dreth etifeddiant, mae diwygio’r Cynllun hwn wedi parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i Undeb Amaethwyr Cymru - gan ein bod yn llwyr ymwybodol obwysigrwydd cymorth fferm i hyfywedd ein busnesau, yr economi wledig a’r gadwyn gyflenwi ehangach yma yng Nghymru.”

Wrth grynhoi rhai o'r newidiadau allweddol, amlygodd Mr Rickman fod disgwyliad y gorchudd 10% coed wedi'i ddisodli gan darged cynllun cyfan a Gweithred Sylfaenol ddiwygiedig. Nodwyd hefyd bod nifer y Gweithredoedd Sylfaenol wedi’u lleihau o 17 i 12, a bydd Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac ardaloedd sy’n gysylltiedig â hawliau pori tir comin bellach yn gymwys ar gyfer cyfran o’r Taliad Sylfaenol Cyffredinol.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw ond yn ddiwedd ar y dechrau, fodd bynnag, ac mae yno fanylion sylweddol i weithio drwyddynt a’u cadarnhau, gyda’r dadansoddiad economaidd diweddaraf ac asesiadau effaith yn hollbwysig.

“Yn ganolog i hyn bydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu Taliad Gwerth Cymdeithasol sy’n adlewyrchu’r gwaith y mae ffermwyr Cymru yn eu cyflawni wrth gyfrannu at bob un o’r 4 amcan Rheoli Tir yn Gynaliadwy.

Gyda’r Cynllun nawr fwy hygyrch a hyblyg yn dilyn newidiadau sylweddol - gan gynnwys dileu rheol orchudd coed o 10% a lleihad yn nifer o Weithredoedd Sylfaenol - mae'n rhaid i ni nawr sicrhau bod y gyllideb gysylltiedig â'r fethodoleg dalu yn gwarantu sefydlogrwydd economaidd ar gyfer ein ffermydd teuluol yng Nghymru mewn cyd-destun o nifer o heriau ehangach.” dywedodd Mr Rickman.

Undeb Amaeth yn cydnabod llwyddiant oes sylfaenwyr busnes blaenllaw

Cyflwynwyd ‘Gwobr Llwyddiant Oes’ Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) i sylfaenwyr busnes blaenllaw o ogledd Cymru mewn cinio arbennig a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Cinmel, Abergele ar ddydd Gwener 8 Tachwedd 2024.

Dechreuodd Gareth a Falmai Roberts, sylfaenwyr y busnes iogwrt poblogaidd, Llaeth Y Llan, eu busnes o sied loi wedi’i haddasu yn eu ffermdy yn Llannefydd, Sir Ddinbych ym 1985 – gyda’r treialon cyntaf o’r cynnyrch yn cael eu cynnal yng nghefn eu cwpwrdd sychu!

Dros y tri degawd diwethaf, mae’r busnes wedi tyfu o nerth i nerth, gan symud i laethdy modern a ddyluniwyd ac a adeiladwyd yn 1995 gan ddefnyddio ysgubor fferm segur ac adeiladau eraill. Erbyn 2015, gyda’r brand wedi’i stocio ledled Cymru mewn 4 prif fanwerthwr a dwsinau o siopau annibynnol, cyrhaeddodd yr hen laethdy ei gapasiti, a dyluniwyd ac adeiladwyd cyfleuster cynhyrchu mwy ar fferm Roberts. Agorwyd y cyfleuster hwn yn swyddogol yn 2017 gan Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar y pryd.

Mae’r busnes yn cyfuno gwerthoedd traddodiadol gyda thechnegau modern, gan gynhyrchu 14 o flasau iogwrt gwahanol, gan ddefnyddio llaeth Cymreig o’r ardal leol. Mae’r iogwrt yn cael ei werthu ledled Cymru a Lloegr, gyda’r busnes eisoes wedi ennill gwobr Cynhyrchydd Bwyd y Flwyddyn yng Ngwobrau Bwyd a Diod cyntaf Cymru yn 2022.

Cyflwynwyd gwobr Llwyddiant Oes Undeb Amaethwyr Cymru i Gareth a Falmai Roberts gan Lywydd FUW, Ian Rickman, gyda’r bariton operatig, John Ieuan Jones, hefyd yn bresennol ar y noson i ddarparu adloniant.

Dywedodd Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru:

“Roedd Undeb Amaethwyr Cymru yn gwbl unfrydol y dylid cydnabod busnes hynod lwyddiannus Gareth a Falmai, ac roeddem yn falch iawn o gynnal y cinio hwn i anrhydeddu eu cyflawniadau a chyflwyno’r wobr hon iddynt.

O gynhyrchu eu pot iogwrt cyntaf, i’w llwyddiant presennol fel un o gynhyrchwyr bwyd mwyaf adnabyddus Cymru, mae Llaeth y Llan yn enghraifft ragorol o fentergarwch Cymreig, gyda ffermydd lleol a chynhyrchu bwyd yn ganolog i’w llwyddiant.

Rwy’n eu llongyfarch ar y cyflawniad haeddiannol hwn, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd eu busnes yn parhau i dyfu o nerth i nerth.”

Bydd elw o’r cinio, a’r arwerthiant hynod lwyddiannus, yn cael ei gyflwyno i Gronfa Goffa Apêl Goffa Dai Jones, sy’n cael ei weinyddu gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Pryder y Parc - Undeb yn cwrdd AS i drafod Parc Cenedlaethol arfaethedig

Cafodd swyddogion o Undeb Amaethwyr Cymru Sir Drefaldwyn gyfarfod yn ddiweddar ag Aelod Seneddol Maldwyn a Glyndŵr, Steve Witherden AS i drafod pryderon ynghylch Parc Cenedlaethol arfaethedig ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru, a all gynnwys cyfran helaeth o ogledd Powys.

Cafodd y cyfarfod ei gynnal ger Pistyll Rhaeadr yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, gan gynnig cyfle i Swyddog Gweithredol Sirol Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Wyn Davies a Chadeirydd Sir Undeb Amaethwyr Cymru, Wyn Williams, godi amryw o bryderon i Mr Witherden ynghylch datblygiad arfaethedig y Parc Cenedlaethol. Roedd y gwrthwynebiadau hyn yn cynnwys biwrocratiaeth ychwanegol a rheoliadau cynllunio, ac yn hollbwysig, y pryderon cynyddol a leisiwyd yn lleol ynghylch y pwysau y gallai’r dynodiad ei osod ar seilwaith lleol a chymunedau lleol.

Mae’r ymchwiliad i greu’r Parc Cenedlaethol yn dilyn ymrwymiad blaenorol gan Lywodraeth Cymru i ddynodi Parc Cenedlaethol newydd yng Nghymru yn seiliedig ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol bresennol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Pe byddai’n cael ei sefydlu, hwn fyddai’r pedwerydd Parc Cenedlaethol yng Nghymru, a’r cyntaf ers 1957.

Mae’r cynigion ar hyn o bryd yn destun eu hail rownd o ymgynghori o dan ofal Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), gyda’r ffiniau arfaethedig yn ymgorffori Llyn Efyrnwy a Dyffryn Tanat, yn ogystal â threfi a phentrefi megis Llanfyllin a Meifod, gan ymestyn mor bell i’r gogledd â Threlawnyd yn Sir y Fflint.

Tra wrth Bistyll Rhaeadr, cyfeiriwyd at bryderon ynghylch y gor-dwristiaeth presennol ar y safle - gydag ymchwydd yn nifer yr ymwelwyr dros fisoedd yr haf yn aml yn arwain at oedi sylweddol mewn traffig a rhwystrau yn lleol - gan gael cael effaith andwyol ar drigolion lleol a ffermwyr. Lleisiwyd pryderon y byddai dynodiad Parc Cenedlaethol yn debygol o achosi ymchwydd pellach o dwristiaid, gan waethygu'r broblem.

Dywedodd Wyn Williams, Cadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru Sir Drefaldwyn:

“Roeddem yn ddiolchgar iawn am y cyfle i gwrdd â Steve Witherden AS a chyfleu’r pryderon niferus sydd wedi codi’n lleol ynglŷn â dynodiad arfaethedig Parc Cenedlaethol gogledd-ddwyrain Cymru – a allai ymgorffori canran enfawr o Sir Drefaldwyn.

Er ein bod yn croesawu ymwelwyr ac yn cydnabod cyfraniad allweddol twristiaeth i’r economi leol, mae’n amlwg mai ychydig iawn o awydd sydd yn lleol am y dynodiad hwn.

Mewn ardaloedd yn Eryri a Bannau Brycheiniog rydym eisoes wedi gweld y niwed y gall gor-dwristiaeth ei gael ar gymunedau lleol – o fiwrocratiaeth ychwanegol a chyfyngiadau cynllunio, straen cynyddol ar gyfleusterau a seilwaith sydd eisoes yn crebachu, ac ymchwydd ym mhrisiau tai. Ar ben hynny, mae cost mor enfawr ar adeg pan fo cymaint o wasanaethau cyhoeddus eraill dan fygythiad yn codi cwestiynau sylweddol.”

Yn dilyn yr ymweliad â’r rhaeadr, cynhaliwyd cyfarfod rhwng Undeb Amaethwyr Cymru a Steve Witherden AS yn y Wynnstay Arms, Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Cafwyd cyfle i ffermwyr a sefydliadau lleol - gan gynnwys y Clybiau Ffermwyr Ifanc - drafod cynigion y Parc Cenedlaethol ymhellach, yn ogystal â phryderon ehangach, gan gynnwys y newidiadau arfaethedig i dreth etifeddiant a amlinellwyd yng Nghyllideb ddiweddar Lywodraeth y DU.

Ychwanegodd Steve Witherden, Aelod Seneddol Maldwyn a Glyndŵr:

“Croesawais y cyfle i gwrdd ag Undeb Amaethwyr Cymru Sir Drefaldwyn a chlywed y pryderon ynghylch dynodiad Parc Cenedlaethol a fyddai’n cynnwys gogledd Sir Drefaldwyn.

O gynllunio, i barcio i gyd-destun ehangach y pwysau ar gyllid cyhoeddus, mae’r pryderon yn ddealladwy, a byddwn yn annog y cyhoedd i gysylltu â mi a lleisio unrhyw bryderon neu sylwadau yn ymgynghoriad parhaus Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n dod i ben 16 Rhagfyr 2024.”

Cynhaliwyd cyfarfod arall yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant ar yr un noson, a fynychwyd gan dros 200 o aelodau o’r gymuned leol, yr awdurdod lleol a busnesau – gyda mwyafrif helaeth yn gwrthwynebu’r cynigion ar gyfer dynodiad Parc Cenedlaethol.

Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn mynegi pryderon dybryd yn dilyn datganiad Cyllideb yr Hydref y DU

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn bryderus o glywed y cyhoeddiad gan Ganghellor y Trysorlys yng Nghyllideb yr Hydref heddiw (30.10.24) y bydd rhyddhad treth ar eiddo amaethyddol yn cael ei ddiwygio o 2026, gan adael dyfodol llawer o ffermydd Cymru yn y fantol.

Yn ystod y Gyllideb, cyhoeddwyd y bydd y gostyngiad treth o 100% yn dod i ben i fusnesau a thir gwerth dros £1 miliwn yn y sector amaethyddol. Bydd y gyfradd gyfredol o ryddhad 100% yn parhau ar gyfer tir amaethyddol a busnesau o dan £1 miliwn, ond ar gyfer asedau dros £1 miliwn, bydd treth etifeddiaeth yn berthnasol gyda rhyddhad o 50%, ar gyfradd weithredol o 20%.

Bydd y newid yn effeithio ar y rhan fwyaf o ffermydd teuluol Cymru.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman:

“Mae’r FUW wedi rhybuddio yn barod y byddai newidiadau i’r rhyddhad trethiannol ar eiddo amaethyddol yn cael effaith ar ddyfodol ffermydd teuluol a’n cymunedau gwledig – yn ogystal a chael effaith andwyol ar fusnesau a chyflogwyr sy’n gysylltiedig ȃ’r diwydiant.

“Rydyn ni’n gwybod, ar gyfartaledd, bod maint ffermydd yng Nghymru tua 120 erw – gydag amcangyfrifon ceidwadol o werth tir ac adeiladau yn rhoi gwerth o dros £1 miliwn ar asedau i’r rhan fwyaf o ffermydd.

“Mae’r Rhyddhad ar Eiddo Amaethyddol wedi chwarae rhan hanfodol o fewn y diwydiant ers blynyddoedd er mwyn sicrhau nad yw’r rhai sy’n etifeddu tir amaeth yn cael eu llethu gan drethi pan fydd ffermydd teuluol yn trosglwyddo o un genhedlaeth i’r nesaf. 

“Bydd rhaid i ni ddisgwyl clywed beth yw’r glo mȃn dros y dyddiau nesaf, a beth fydd oblygiadau’r cyhoeddiad heddiw ar gyllid Llywodraeth Cymru. Ond mewn cyfnod heriol i ffermio yng Nghymru, bydd y newyddion hyn yn ychwanegu at ansicrwydd pellach i fusnesau amaeth sy’n gwneud eu gorau glas i gynhyrchu bwyd tra’n diogelu’r amgylchedd.”

Dylai aelodau sy'n pryderu am y newid hwn gysylltu â'u swyddfa FUW sirol am gyngor gan ein partneriaid, RDP Law.

Cyflwyno ffermwr llaeth o Sir Benfro gyda Gwobr Cyfraniad Arbennig yr FUW i’r Diwydiant Llaeth yng Nghymru

Mae’r ffermwr llaeth, Stephen James, o fferm Gelliolau yng Nghlunderwen, Sir Benfro wedi derbyn gwobr Gwasanaeth Cyfraniad Arbennig Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) i Ddiwydiant Llaeth Cymru yn Sioe Laeth Cymru 2024 yng Nghaerfyrddin.

Bydd Llywydd yr Undeb, Ian Rickman, yn cyflwyno’r wobr i’r enillydd yn ystod Sioe Laeth Cymru a gynhelir ar Faes Sioe’r Siroedd Unedig yn Nantyci, Caerfyrddin (dydd Mawrth 22 Hydref 2024).

Dywedodd Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru: “Roedd y panel beirniaid yn hynod falch â’r holl enwebiadau eleni, ond roedd gwaith diwyd a diflino Stephen am dros 20 mlynedd yn cynrychioli’r diwydiant mewn rôl gyhoeddus ar faterion y diciau mewn gwartheg yn ei osod ar y brig.

“Mae Stephen yn enillydd teilwng.  Mae wedi defnyddio ei brofiad o ddelio â’r diciau yn ei fusnes fferm wedi i’w fuches fod dan gyfyngiadau yn gyson dros gyfnod o chwarter canrif, gan roi sylw cyhoeddus i’r prif faterion sy’n effeithio ar ffermwyr llaeth Cymru.”

Stephen yw Cadeirydd Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, swydd y mae wedi’i dal ers mis Gorffennaf 2018. Fel Cadeirydd, mae’n gweithio’n agos gyda Phrif Swyddog Milfeddygol Cymru, ac yn gweithio i wella safonau iechyd a lles anifeiliaid ledled Cymru.

Mae hefyd wedi bod yn ffigwr blaenllaw wrth gynrychioli pryderon ffermio yng Nghymru gyda’r Llywodraeth. Fel cynrychiolydd y diwydiant ar fwrdd rhaglen TB Llywodraeth Cymru, mae wedi cymryd rhan mewn cyfweliadau di-ri gyda darlledwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.  Mae wedi tynnu sylw at yr effaith y mae’r clefyd yn ei gael ar deuluoedd ffermio a’r angen i Lywodraeth Cymru weithredu strategaeth gynhwysfawr i ddileu’r diciau mewn gwartheg.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Stephen James: “Mae derbyn y wobr hon yn fraint enfawr. Roedd yn dipyn o sioc clywed y newyddion. Dwi’n hynod ddiolchgar o’i derbyn, yn enwedig mewn digwyddiad sydd mor agos at fy nghalon ac sydd mor bwysig i’r diwydiant llaeth yng Nghymru. Diolch o galon am yr anrhydedd.” 

Mae Stephen wedi dal amrywiaeth eang o swyddi o fewn NFU Cymru o Gadeirydd y Gangen Leol i Lywydd (2014 - 2018).  Mae wedi gweithio ar nifer o feysydd polisi arwyddocaol gan gynnwys Diwygio’r Polisi Amaethydd Cyffredinol, Brexit a materion llaeth a bu’n ffigwr dylanwadol yn ystod cyfnod anodd argyfwng llaeth 2012. Anerchodd Stephen, ochr yn ochr ag arweinwyr undebau ffermio eraill y Deyrnas Gyfunol, rali’r ffermwyr llaeth yn San Steffan nôl ym mis Gorffennaf 2012.

Yn frwd dros gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr, rhannodd Stephen y cyfrifoldeb am ei fusnes fferm yng Ngelliolau gyda’i fab, Daniel, yn gynnar.  Mae wedi bod yn ymwneud yn helaeth â Ffermwyr Ifanc Cymru, yn lleol ac yn genedlaethol, gan ddal nifer o swyddi gan gynnwys Cadeirydd Sir Benfro, Llywydd Sir Benfro ac aelod o Gyngor CFfI Cymru.

Yn aelod ers cyfnod maith gyda First Milk a Chyfarwyddwr a chyn Gadeirydd Ffermwyr Clunderwen ac Aberteifi, mae’n wirioneddol gredu yng ngwerthoedd ac egwyddorion sefydliadau cydweithredol.

Mae’n gyn Lywydd Cymdeithas Amaethyddol Sir Benfro, yn Llywydd ac yn aelod gweithgar o Fwrdd Cymdeithas Sioe Clunderwen, yn gyn-Gadeirydd Cyngor Cymuned Clunderwen ac yn aelod a chyn Gadeirydd Cymdeithas Tir Glas Arberth. Mae Stephen James hefyd yn Gymrawd y Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol.

I gloi dywedodd Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru: “Mae Stephen James wedi gwneud cyfraniad arbennig i Ddiwydiant Llaeth Cymru. Mae’n bleser gennym gyflwyno’r wobr hon gan Undeb Amaethwyr Cymru iddo i gydnabod y blynyddoedd o waith y mae wedi’i wneud ar ran ffermwyr Cymru. Ar ran yr Undeb, hoffwn longyfarch a diolch i Stephen am ei waith.”

Cyhoeddi enillwyr cystadleuaeth calendr Undeb Amaethwyr Cymru 2025 sy’n cyfleu bywyd gwledig

Diolch i ffotograffwyr brwd ar draws Cymru, cyrhaeddodd toreth o ddelweddau bendigedig, pob un yn cyfleu bywyd gwledig, pencadlys Undeb Amaethwyr Cymru dros yr wythnosau diwethaf.  Ar ôl didoli a beirniadu ceisiadau ar gyfer calendr 2025, y ddelwedd hyfryd o ddefaid Cheviot Tiroedd y Gogledd o dan flagur coed sy’n cipio’r brif wobr.

Mae Emily Jones o Benuwch wrth ei bodd mae ei llun buddugol hi fydd yn ymddangos ar glawr calendr Undeb Amaethwyr Cymru 2025, a fydd ar gael AM DDIM o swyddfeydd sirol yr undeb ac yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ar Dachwedd 24 a 25.

Cyflwynir y brif wobr o £250 i Emily ar ddiwrnod cyntaf y Ffair Aeaf, a bydd delweddau'r unarddeg cystadleuydd buddugol arall sy’n ymddangos yn y calendr yn derbyn copi dwyieithog a het beanie Undeb Amaethwyr Cymru.

Bydd lluniau a dynnwyd gan Greta Hughes, Jamie Smart, Heledd Williams, Annie Fairclough, Chloe Bayliss, Steven Evans Hughes, Marian Pyrs Owen, Beca Williams, Richard Walliker, Erin Wynne Roberts ac Anne Callan hefyd yn ymddangos yn y calendr.

Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru Ian Rickman: “Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn hynod boblogaidd eleni eto ac roeddwn wrth fy modd yn edrych trwy dros 100 o ddelweddau gwledig bendigedig. Roedd y safon yn uchel ac nid oedd yn dasg rhwydd i’w dewis i ddeuddeg.

“Rwy’n meddwl ein bod ni wedi cyfleu’r gorau sydd gan Gymru wledig i’w chynnig, o asynnod a moch bach ciwt, buwch yr Ucheldir ar gyfer mis Mawrth, delwedd yn dangos manylder agos o wyneb ysgyfarnog ar ddechrau’r flwyddyn i fachlud pinc yng nghefn gwlad Cymru.

“Eleni rydym wedi dewis delwedd drôn o beiriannau wrth eu gwaith ar gyfer mis Hydref, mae cystadleuaeth cneifio â gwellau traddodiadol yn ymddangos ym mis Awst, gan orffen gyda delwedd aeafol hudolus ac iasol ger aber i gloi’r flwyddyn. Mae'r calendr yn crynhoi misoedd y flwyddyn trwy ddelweddau trawiadol, lliwgar ac atmosfferig.

“Mae’r gystadleuaeth hon wedi amlygu bod ffermio yn bwysig i bob un ohonom mewn rhyw ffordd neu’i gilydd a bod ein ffermydd teuluol Cymreig yn hollbwysig fel cynhyrchwyr bwyd, gofalu am gefn gwlad a bywyd gwyllt, yn arloeswyr technegol ac yn hanfodol i ddiogeli’r sgiliau traddodiadol."

Wrth gloi, dywedodd Ian Rickman: “Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a diolch am gymryd yr amser i dynnu’r lluniau hyn, sy’n portreadu ffermio a’n cefn gwlad bendigedig mewn ffordd mor fedrus.” 

Bydd y calendrau ar gael o’ch swyddfa sir leol ac o stondin Undeb Amaethwyr Cymru yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru.