Undeb Amaethwyr Cymru yn ymateb i achos o glwy'r traed a'r genau yn yr Almaen

Undeb Amaethwyr Cymru yn ymateb i achos o glwy'r traed a'r genau yn yr Almaen

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi ymateb yn dilyn adroddiadau o achos o glwy’r traed a’r genau (FMD) yn yr Almaen.

Cafodd y clefyd ei ddarganfod mewn byfflo dŵr ar fferm yn Märkisch-Oderland, Brandenburg yn nwyrain y wlad ar 10 Ionawr. Dyma’r achos cyntaf o glwy’r traed a’r genau yn yr Almaen ers bron i 40 mlynedd.

Mewn ymateb i’r achos, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bod yn gwahardd mewnforio gwartheg, moch a defaid o’r Almaen wrth iddi gynyddu mesurau i atal clwy’r traed a’r genau rhag lledaenu.

Wrth gyfeirio tuag at y sefyllfa, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman:

“Bydd newyddion ynghylch yr achos yma o glwy’r traed a’r genau yn yr Almaen yn destun pryder i ffermwyr da byw ledled Ewrop.

"Mae’n anochel y bydd y newyddion yn ailgynnau atgofion o’r effaith bellgyrhaeddol a gafodd y clefyd ar y sector amaeth a chefn gwlad yn ei gyfanrwydd dros ddau ddegawd yn ôl yn 2001, ac yn ein hatgoffa o bwysigrwydd gwiriadau trylwyr ar ein ffiniau er mwyn sicrhau nad yw’r clefyd yn cael ei fewnforio i'r DU.

"Rydym yn croesawu’r camau cychwynnol a gymerwyd gan awdurdodau’r Almaen, ynghyd â phenderfyniad Llywodraeth y DU i wahardd mewnforio gwartheg, moch a defaid o’r Almaen. Byddwn yn cadw llygad barcud wrth i’r sefyllfa ddatblygu, ac yn annog ein ffermwyr i barhau’n wyliadwrus.”

Mae Clwy'r Traed a’r Genau yn glefyd hysbysadwy yn gyfreithiol ac mae’n rhaid rhoi gwybod amdano. Os ydych yn amau ​​bod eich anifeiliaid yn dioddef o glefyd hysbysadwy, rhaid i chi roi gwybod amdano ar unwaith drwy ffonio Llinell Gymorth y Llywodraeth. Mae methu â gwneud hynny yn drosedd.

Y rhif i roi gwybod am achos amheus yw:

03000 200 301 yn Lloegr

0300 303 268 yng Nghymru